Llythyrau'n ymwneud â changhennau Sir Benfro,
- 1/10.
- file
- 1968-1973.
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Sir Benfro,
Llythyrau at Zonia M. Bowen gan Swyddogion y BBC, 1967-1969, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod rhaglenni teledu a radio yn ymwneud â Merched y Wawr, ac ymateb y Gorfforaeth i gŵyn gan y Mudiad ynglŷn â rhaglenni Cymraeg yn gyffredinol ar y BBC.
British Broadcasting Corporation.
Llythyrau amrywiol gan wahanol gyrff ac unigolion,
Llythyrau amrywiol at Zonia M. Bowen gan wahanol gyrff ac unigolion, 1967-1975, gan gynnwys gohebiaeth yn ymwneud â Merched y Wawr, a llythyrau yn trafod materion megis arwyddion ffordd ddwy-ieithog. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.
Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru,
Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â chylchgrawn Y Wawr, 1968-1975, gan gynnwys llythyrau yn trafod grantiau amrywiol ar gyfer gwella clawr Y Wawr. Ymysg y gohebwyr mae Meic Stephens, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Arts Council of Wales.
Gohebiaeth â'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth,
Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen â'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth, 1969-1976, yn trafod grantiau i gynorthwyo gyda gwaith Merched y Wawr, gan gynnwys llythyrau gan Zonia Bowen at Gyngor yr Iaith Gymraeg yn gofyn am gefnogaeth tuag at ymdrech y Mudiad i sicrhau cymorth ariannol, 1973; ynghyd â dogfennaeth berthnasol, megis crynodebau o hanes a disgrifiadau o weithgareddau'r Mudiad.
Llythyrau'n ymwneud ag ysgolion meithrin,
Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud ag ysgolion meithrin, 1969-1977, gan gynnwys rhai oddi wrth Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yn trafod ymgyrch i agor a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg; cyfrif o gyfraniadau Merched y Wawr i'r achos, 1972-1973; cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i gychwyn ysgol neu gylch meithrin; ac adroddiad blynyddol a chopi o bolisi gan Mudiad Ysgolion Meithrin, 1976-1977.
Mudiad Ysgolion Meithrin.
Llythyrau gan Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig,
Llythyrau at Zonia M. Bowen gan Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig, 1970, yn ymwneud â chais i Ferched y Wawr gyfrannu tuag at apêl i sefydlu Canolfan Gymraeg i Weithgareddau Rhyngwladol yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Rhestri o ganghennau Merched y Wawr yn 1975, gan gynnwys rhestr o enwau ysgrifenyddion y canghennau lleol a chofnod o'u rhifau swyddogol.
Crynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad,
Crynodebau o hanes sefydlu Merched y Wawr gan Zonia M. Bowen, 1975-2004, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a C. W. Hulin o'r Mid Wales News and Pictures, 1975, yn trafod hanes sefydlu'r Mudiad a'i hanes personol hi ei hun; copi o'r gwaith Y Dyddiau Cynnar (Bala, 1977), gan Zonia M. Bowen; a chrynodebau amrywiol eraill yn ymwneud â'i chyfnod fel aelod o Ferched y Wawr.