Llythyrau'n ymwneud â changhennau Morgannwg,
- 1/1.
- file
- 1967-1973.
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Morgannwg,
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Sir Gaerfyrddin,
Gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977, rhwng Zonia M. Bowen, fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, a chorfforaethau, mudiadau ac unigolion amrywiol yn ymwneud â Merched y Wawr a'i sefydliad. Ceir rhestrau o gynnwys rhai o'r ffeiliau, a baratowyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau perthnasol.
Gohebiaeth ag Undeb Cymru Fydd,
Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac Undeb Cymru Fydd, 1966-1969, gan gynnwys llythyrau yn trafod sefydlu Merched y Wawr; manylion am gyfarfodydd Cyngor Undeb Cymru Fydd a chopïau o gofnodion y cyfarfodydd; a chopïau o Llythyr Ceridwen (rhifynnau 26-28), 1966-1968, cylchgrawn Pwyllgor Merched Undeb Cymru Fydd.
Undeb Cymru Fydd.
Gohebiaeth â'r Urdd Ryngwladol i Ferched dros Heddwch a Rhyddid,
Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Urdd Ryngwladol i Ferched dros Heddwch a Rhyddid, 1967-1971, gan gynnwys llythyrau yn trafod y posibilrwydd o greu perthynas ffurfiol rhwng y ddau fudiad. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.
Women's International League for Peace and Freedom.
Llythyrau gan yr Awdurdod Teledu Annibynnol a Theledu Harlech,
Llythyrau at Zonia M. Bowen gan yr Awdurdod Teledu Annibynnol a Theledu Harlech, 1967-1975, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod rhaglenni teledu yn ymwneud â Merched y Wawr, ac ymateb Teledu Harlech i gŵyn gan y Mudiad ynglŷn â faint o Gymraeg a ddefnyddiwyd yn rhaglenni'r cwmni.
Llythyrau gan Undeb y Gymraeg Fyw,
Llythyrau at Zonia M. Bowen gan Undeb y Gymraeg Fyw, 1968-1969, yn trafod gwerthiant ei nwyddau i aelodau Merched y Wawr, gan gynnwys adroddiad o'r hyn a'i cyflawnwyd gan yr Undeb yn 1967.
Llythyrau'n ymwneud ag Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint,
Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud â gweithgareddau amrywiol Merched y Wawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint, 1969.
Llythyrau'n ymwneud â chân y Mudiad,
Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud â chân y Mudiad, 1969-1974, gan gynnwys gohebiaeth ar sut orau i fynd ati i ddewis y gân; a chopïau o'r gân swyddogol, 'Fy Iaith, Fy Ngwlad', yn defnyddio geiriau D. Jacob Davies.
Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr,
Papurau'n ymwneud â Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr, 1965-1967, gan gynnwys llyfr dathliad Sefydliad y Merched rhwng 1915 ac 1965, 1965; adroddiad blynyddol Sefydliad y Merched, 1965; papurau'n ymwneud â chyfarfodydd Sefydliad y Merched Y Parc a Sir Feirionnydd, 1965-1966; a phapurau, yn bennaf gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac unigolion amrywiol, ynglŷn â'r anghydfod rhwng Sefydliad y Merched a changen Y Parc a arweiniodd at sefydlu Merched y Wawr, 1967. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.
Cyfarwyddiadau ar sut i gychwyn cangen,
Copïau o bamffledi swyddogol y Mudiad ar sut i fynd ati i sefydlu cangen Merched y Wawr, 1967-1975
Crynodebau o gofnodion Pwyllgor Gwaith Merched y Wawr, 1969-1975, gan gynnwys yr hyn a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd, megis ethol swyddogion, awgrymiadau ynglŷn â gweithgareddau posibl y Mudiad, a materion gweinyddol ac ariannol cyffredinol. Yn wreiddiol y swyddogion cenedlaethol oedd Pwyllgor Gwaith y Mudiad, ond fe'i ehangwyd yn ddiweddarach i gynnwys cynrychiolwyr o'r pwyllgorau sirol.
Cylchlythyrau Gŵyl Dewi a Calan Mai Merched y Wawr, 1968, gan gynnwys negeseuon gan y Llywydd ac adroddiadau yn sôn yn fras am ddigwyddiadau'r Mudiad ledled Cymru.
Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.
Drafftiau a nodiadau ar gyfer anerchiadau Zonia M. Bowen yn ymwneud â Merched y Wawr, 1967-1974. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.
Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.
Llythyrau'n ymwneud â'r canghennau,
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Merched y Wawr ledled Cymru, 1967-1975, gan gynnwys yn bennaf llythyrau at Zonia M. Bowen fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, ynghylch sefydlu canghennau newydd a materion gweinyddol amrywiol; ynghyd â llythyrau gan y swyddogion cenedlaethol. Ceir llythyrau hefyd yn adrodd hanes y canghennau a'r gweithgareddau a drefnwyd ganddynt. Ceir rhestrau o gynnwys y ffeiliau, a grëwyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau.
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Sir Drefaldwyn a Birmingham,
Llythyrau gan unigolion amrywiol yn llongyfarch Zonia M. Bowen ar sefydlu Merched y Wawr, 1967-1969, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Pierce, oedd yn bresennol yng nghyfarfod sefydlu'r cangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn Llanfair-pwll yn 1915; Cassie Davies; a Hafina Clwyd. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.
Davies, Cassie, 1898-1988