Dangos 63 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau William a Myfi Wiliams,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfr casgliad 'Cronfa y Cadymgyrch Cenedlaethol Cymreig' ar gyfer Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Forge, Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf, yn cynnwys cerddi llawysgrif ...,

Llyfr casgliad 'Cronfa y Cadymgyrch Cenedlaethol Cymreig' ar gyfer Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Forge, Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf, yn cynnwys cerddi llawysgrif [?gan Dafydd Ellis Jones ('Alaw Llugan')]. Ceir yn eu plith benillion i 'Soirie' [sic] ac i 'Lyfrgell' capel Maengwyn, Machynlleth, cerdd 'Y Rhyfel' a ddanfonwyd o dan y ffugenw 'Barac' i 'Gyfarfod Cystadleuol y Forge', 4 Mawrth 1915, a cherdd gyfarch gan 'Alaw Llugan' i'r Parch John Madryn Jones (m 1969) ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Llanfair [Caereinion], Nadolig 1932.

Copi teipysgrif 'Storïau am Iesu Grist a'r Apostol Paul', cyd-fuddugol o dan y ffugenw 'Lona' â detholiad Miss Ruth Jones ...,

Copi teipysgrif 'Storïau am Iesu Grist a'r Apostol Paul', cyd-fuddugol o dan y ffugenw 'Lona' â detholiad Miss Ruth Jones yng nghystadlaethau Pwyllgor Addysg Ceredigion, 1961 (gw Ruth Jones a Myfi Williams, Storâau o'r Testament Newydd (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1962); ynghyd â llythyr, 16 Hyd 1962, at Myfi Williams oddi wrth Alun R Edwards.

Copi llawysgrif traethawd ar 'Enwogion Môn, 1900-50' o waith 'Ap Gwilym' y dyfarnwyd cyfran o'r wobr iddo yn Eisteddfod Gadeiriol ...,

Copi llawysgrif traethawd ar 'Enwogion Môn, 1900-50' o waith 'Ap Gwilym' y dyfarnwyd cyfran o'r wobr iddo yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, Rhosneigr, 1958; ynghyd ag atodiad, 1959, a llythyr, 28 Rhag 1960, at Myfi Williams oddi wrth John Thomas, Ysgrifennydd Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol Môn.

Canlyniadau 41 i 60 o 63