Dangos 64 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ystadegau'r Ysgol Sul

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon unffurf Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1928-1957, a chofnodion rhif a llafur, [1885]-1954 (gyda bylchau). Ceir rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb a nifer yr adnodau.

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau aelodaeth ar gyfer aelodau Capel Dinorwig a symudodd i eglwysi eraill, 1926-1936, 1963, ac ar gyfer rhai a ymunodd â chynulleidfa Dinorwig, 1934-1964 (gyda bylchau). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gyffredinol, 1957-1959, eitemau printiedig, 1901, 1903 a 1956, lluniau unigolion (cardiau post a phrintiedig), a phapurau amrywiol, yn eu plith rhestr o brydlesi a dogfennau yn ymwneud â'r Capel a drosglwyddwyd i T. Jones Parry ym 1907.

Llyfrau cofnodion y Gymdeithas Lenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion Cymdeithas Lenyddol y Capel (Cymdeithas Lenyddol Eglwysi Dinorwig a'r Fachwen yn ddiweddarach). Yn eu plith ceir rhestri swyddogion ac aelodau'r pwyllgor, rhestri aelodau'r Gymdeithas, rhaglenni cyfarfodydd a chyfrifon.

Cymdeithas Lenyddol Eglwysi MC Dinorwig a'r Fachwen

Llyfr y Trysorydd

Yn ogystal â derbyniadau a thaliadau, 1900-1923, mae'r gyfrol yn cynnwys 'Telerau gosodiad Ty'r Capel', 1897, 1925 a 1930 (ynghyd â llofnodion yr Ysgrifennydd a thenantiaid, 1901, 1930 a 1932), a 'Rheolau benthygiad y Capel', 1909.

Llyfr y Trysorydd

Mae'r gyfrol yn cynnwys telerau'r Tŷ Capel a rhestr nwyddau a brynwyd ar ei gyfer, 1925, a manylion ynglŷn â phaentio'r Capel ym 1928.

Canlyniadau 1 i 20 o 64