Dangos 53 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwenlyn Parry ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Erthyglau,

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1978-[1982], gan gynnwys erthygl John Roberts, 'Gwenlyn, Pozzo a Lucky', 1978; drafft o erthygl gan John Hefin yn trafod Gwenlyn Parry a sefydlu Pobol y Cwm, [1982]; ac erthyglau wedi eu casglu yn trafod y theatr yn gyffredinol.

Drafftiau,

Drafftiau teipysgrif o addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o Un Nos Ola Leuad, [1989]-1990.

Dilyn y Ddraig: y Cartref,

Sgript o'r ddrama Dilyn y Ddraig: y Cartref, 1989, a chopi o'r cyfieithiad Saesneg, Dragon Trail: the Home; ynghyd â drafftiau cynnar o'r ddrama, yn dwyn y teitl gwreiddiol Dirwasgiad a Throthwy Rhyfel.

Cylchgronau,

Cylchgronau, 1973-1988, gan gynnwys cyfweliadau gyda Gwenlyn Parry ac erthyglau yn ymwneud â'i waith.

Cerddi,

Cerddi, 1971-[1991], gan gynnwys dwy gerdd deyrnged i Gwenlyn Parry, ynghyd â chopi teipysgrif o benillion John Ormond, 'Ancient Monuments', wedi ei gyfeirio ato.

Caruso,

Sgript anghyflawn o ddrama Gwenlyn Parry, Caruso, [1979x1990], yn olrhain hanes y canwr opera, Enrico Caruso. Ceir hefyd grynodeb o gynnwys y ddrama, llungopi 'Memories of Caruso' gan Richard Barthelemy, a nodiadau ymchwil ar hanes bywyd a gyrfa Caruso.

Awgrymiadau Endaf Emlyn,

Awgrymiadau Endaf Emlyn, ar ffurf sgript, ar gyfer addasiad teledu o Un Nos Ola Leuad, ynghyd â dau lythyr ganddo at Gwenlyn Parry yn amlinellu ei syniadau, 1989.

A Penny for your Dreams,

Drafft terfynol o'r ddrama A Penny for your Dreams, 1987, gan Gwenlyn Parry a Ken Howard, yn olrhain hanes un o arloeswyr y diwydiant ffilm, William Haggar. Ceir hefyd gopi o 'Biography of William Haggar: Actor, Showman and Pioneer of the Film Industry' gan Mrs Lily May Richards.

Canlyniadau 41 i 53 o 53