Dangos 68 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. J. Morgan,
Rhagolwg argraffu Gweld:

T. J. Morgan

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at T. J. Morgan tra bu'n golygu'r Llenor, 1946-1955; nodyn gan Prys Morgan, 1987; llythyr at W. J. Gruffydd, 1936; cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a phapurau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan arnynt, 1967, 1971-1972; drafft o 'Cymraeg Llafar Safonol', c. 1962; Copïau o Caneuon y Canor, heb ei ddyddio, a Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gyda llythyr, 1962; papurau yn ymwneud â Richard Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr, 1975.

Thomas Williams

Copïau o Caneuon y Canor, heb eu dyddio, ac Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gan Thomas Williams, a llythyr yn ymwneud â hwynt, 1962.

Williams, T. (Thomas), Efell Trefor

W. J. Gruffydd

9 llythyr yn ymwneud â rhifyn coffa W. J. Gruffydd o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth A. E. Jones (Cynan), ac R. T. Jenkins, 1954, D. Rees Griffiths (Amanwy), heb eu dyddio.

Cynan, 1895-1970

W. J. Gruffydd

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at W. J. Gruffydd tra bu'n golygu'r Llenor, 1925-1946.

Y Llenor

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau a drafftiau rhyddiaith a barddoniaeth a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, 1925-1955, cyfraniadau i'r ddau rifyn coffa ar T. Gwynn Jones, 1949, a W. J. Gruffydd, 1955. Mae'n cynnwys, hefyd, bapurau a llythyrau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan ar R. Williams Parry yn Y Genhinen 22, 1972, a chopïau o lawysgrif gan Richard D. Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr yn ymwneud â'r copïau, 1975.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Y Wladfa

Nodiadau ar ymweliad Ben Davies â De America yn 1923-1924, erthyglau yn y Drafod, 1924, a phapurau eraill, heb ddyddiad arnynt, a phenillion yn gyflwynedig i Ben Davies ar ei ymweliad â'r Wladfa gan Llewelyn Williams, Trelew, 1924.

'Yr Hen Dŷ'

Drafft llawysgrif, a drafft teipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd' heb eu dyddio.

Canlyniadau 61 i 68 o 68