Showing 68 results

Archival description
Papurau T. J. Morgan,
Print preview View:

Papurau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd', drafft teipysgrif o'r ddrama 'Cartref y Gweithiwr', drafft llawysgrif o'r ddrama 'Tywyll a Golau' a phapurau rhydd o hanesion byrion, pob un heb eu dyddio.

'Yr Hen Dŷ'

Drafft llawysgrif, a drafft teipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd' heb eu dyddio.

Cerddi rhydd

Cyfieithiadau i'r Gymraeg o gerdd yr un gan Andrew Marvell, Robert Herrick a John Donne, heb eu dyddio.

Pregethau, areithiau a darlithiau

Pregethau, darlithiau, ac areithiau gan Ben Davies, [19 gan., hwyr] - 1937. Mae'r rhain yn cynnwys anerchiadau a nodiadau ar Y Wladfa, Ann Griffiths a Watcyn Wyn, a darlithiau a draddodwyd yng Ngholeg Bala Bangor.

Sgriptiau a nodiadau

Sgriptiau a llyfrau nodiadau gan T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, yn cynnwys sgriptiau'r rhaglen nodwedd, 1954, a darlith, 1962. Ceir hefyd lythyr at T. J. Morgan yn trafod sgriptiau R. G. Berry, 1954, a detholiad allan o un o'i ddramâu.

Llythyrau a drafftiau

25 llythyr ac 19 o ddrafftiau nas cyhoeddwyd yn Y Llenor yn cynnwys barddoniaeth, ysgrifau, straeon byrion ac erthyglau, 1934-1945. Yn eu mysg ceir cyfraniadau gan D. Tecwyn Lloyd, 1944, Idris Davies, 1944, Gwilym R. Tilsley, 1944, R. T. Jenkins, 1944, Euros Bowen, 1941, Cynan, 1942, Harri Williams, heb eu dyddio, W. Ambrose Bebb, 1942, a Melville Richards, 1934.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)

Llythyrau a drafftiau

44 llythyr a drafftiau o 58 cerdd, 5 erthygl, 3 ysgrif, 2 stori fer ac un drama, 1925-1944, yn cynnwys cyfraniadau gan T. Rowland Hughes, 1942, R. T. Jenkins, 1943, D. Miall Edwards, 1935, G. J. Roberts, 1944, B. T. Hopkins, 1927, H. Meurig Evans, 1936, H. D. Lewis, 1936, L. Haydn Lewis, 1938, Meurig Walters, 1938, Waldo Williams, 1939, T. I. Ellis, 1940, J. T. Jones, 1938, D. Tecwyn Lloyd, 1940, T. E. Nicholas, 1941, Alun T. Lewis, 1941, D. Jacob Davies, 1941, J. M. Edwards, 1940, E. Tegla Davies, 1925. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd restr 'Barddoniaeth' rhwng 1927 ac 1941, ond ni restrir rhan helaeth o'r ffeil ynddo.

Hughes, Thomas Rowland

T. Gwynn Jones

27 o lythyrau yn ymwneud â rhifyn coffa T. Gwynn Jones o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth T. H. Parry Williams, E. Morgan Humphreys, Dewi Morgan, David James Jones (Gwenallt), Richard Aaron, J. M. Edwards, J. Lloyd-Jones, John Tudor Jones (John Eilian), Sir Thomas Parry, W. J. Gruffydd, D. Rees Griffiths (Amanwy), E. Tegla Davies, Gwilym R. Jones, Dafydd Jenkins, Geraint Bowen, Idris Bell, 1949.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Papurau Llewellyn Llewellyn

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau, gan mwyaf at Llewellyn Llewellyn a'i wraig Priscilla, oddi wrth eu teulu, ac hefyd, oddi wrth ffrindiau a chydnabod, 1880-1926. Mae'r ohebiaeth, gan mwyaf, yn ymwneud â Llewellyn Llewellyn a'i deulu. Ceir hefyd rai dogfennau personol ac amrywiol, cardiau post a phrisiadau tir, 1892-1921.

Llewellyn, Llewellyn, 1843-1927

Papurau Ben Davies

Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.

Davies, Ben, 1864-1937

Results 41 to 60 of 68