Dangos 56 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. J. Morgan, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ann Griffiths

Pamffled cyhoeddedig E. Griffiths, 'Emynau a Llythyrau Ann Griffiths', (Caernarfon, 1903) ac anerchiad ar Ann Griffiths, heb ei ddyddio.

Annie Davies

Cyfrol yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, yn cynnwys toriadau papur newydd, 1892-1928 ac heb ddyddiad.

Cerddi rhydd

Cyfieithiadau i'r Gymraeg o gerdd yr un gan Andrew Marvell, Robert Herrick a John Donne, heb eu dyddio.

Cyfrol amrywiol

Cyfrol o gyfrifon, 1891-1903. Defnyddiwyd y gyfrol hefyd fel llyfr lloffion ar gyfer dau gasgliad o doriadau papur newydd: Y Darian, c. 1916; a thoriadau gan fwyaf o ryseitiau coginio, heb eu dyddio.

Cyhoeddiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau rhydd o erthyglau a gyhoeddwyd yn bennaf yn y Dysgedydd, Y Diwygiwr a Cennad Hedd, 1896-1931, a heb ddyddiad.

Darlithiau Bala Bangor

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a phapurau rhydd o ddarlithiau a draddodwyd yng Ngholeg Bala Bangor, heb eu dyddio.

Evan Davies

Dwy gyfrol gyda'r enw Evan Davies ynddynt, un ohonynt yn cynnwys cerddi ac ysgrifau llawysgrif yn ogystal â thoriadau papur newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r toriadau heb eu dyddio, ond mewn un gyfrol ceir rhai dyddiadau rhwng 1863 a 1934, ac yn y gyfrol arall ceir rhai dyddiadau rhwng 1889 a 1890.

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a chardiau post, 1923-1926, a rhai heb ddyddiadau arnynt.

Canlyniadau 1 i 20 o 56