Dangos 56 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. J. Morgan, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Nodiadau

Papurau rhydd o nodiadau ar y Parch W. Deudraeth Jones ac 'Islwyn' (William Thomas), a chopïau o gerddi ganddynt, heb eu dyddio.

Pregethau

Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd nodiadau ar William Thomas (Islwyn).

Pryddestau

Pryddestau a gyflwynwyd ar gyfer amrywiol eisteddfodau, [c. 1889] - [c. 1891].

R. Williams Parry

Cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a llythyrau oddi wrth J. O. Williams, 1967, a Thomas Parry, 1971, a drafft o erthygl Prys Morgan yn ymwneud â'r cerddi a gyhoeddwyd dan y teitl 'Manylder Cyfewin R. Williams Parry', Y Genhinen 22 (1972), tt. 31-33.

Parry, Robert Williams

Sgriptiau a nodiadau

Sgriptiau a llyfrau nodiadau gan T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, yn cynnwys sgriptiau'r rhaglen nodwedd, 1954, a darlith, 1962. Ceir hefyd lythyr at T. J. Morgan yn trafod sgriptiau R. G. Berry, 1954, a detholiad allan o un o'i ddramâu.

Sgriptiau a phapurau eraill

Sgript deipysgrif o ddarlithiau neu raglenni radio T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, gan fwyaf heb eu dyddio ond yn cynnwys y flwyddyn 1955. Mae hefyd yn cynnwys dyfyniad o adroddiad Cynulliad y Brifysgol, 1924, ac anerchiad gan R. G. Berry yn 1943.

T. Gwynn Jones

27 o lythyrau yn ymwneud â rhifyn coffa T. Gwynn Jones o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth T. H. Parry Williams, E. Morgan Humphreys, Dewi Morgan, David James Jones (Gwenallt), Richard Aaron, J. M. Edwards, J. Lloyd-Jones, John Tudor Jones (John Eilian), Sir Thomas Parry, W. J. Gruffydd, D. Rees Griffiths (Amanwy), E. Tegla Davies, Gwilym R. Jones, Dafydd Jenkins, Geraint Bowen, Idris Bell, 1949.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Thomas Williams

Copïau o Caneuon y Canor, heb eu dyddio, ac Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gan Thomas Williams, a llythyr yn ymwneud â hwynt, 1962.

Williams, T. (Thomas), Efell Trefor

W. J. Gruffydd

9 llythyr yn ymwneud â rhifyn coffa W. J. Gruffydd o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth A. E. Jones (Cynan), ac R. T. Jenkins, 1954, D. Rees Griffiths (Amanwy), heb eu dyddio.

Cynan, 1895-1970

Y Wladfa

Nodiadau ar ymweliad Ben Davies â De America yn 1923-1924, erthyglau yn y Drafod, 1924, a phapurau eraill, heb ddyddiad arnynt, a phenillion yn gyflwynedig i Ben Davies ar ei ymweliad â'r Wladfa gan Llewelyn Williams, Trelew, 1924.

'Yr Hen Dŷ'

Drafft llawysgrif, a drafft teipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd' heb eu dyddio.

Canlyniadau 41 i 56 o 56