Dangos 36 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Glyn M. Ashton, Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Storïau, dramâu byrion, sgetsys, etc. (9) yn Gymraeg a Saesneg. Ceir yn eu plith ddrama fer 'Cyfeillion', ?c. 1983 [cf ...,

Storïau, dramâu byrion, sgetsys, etc. (9) yn Gymraeg a Saesneg. Ceir yn eu plith ddrama fer 'Cyfeillion', ?c. 1983 [cf. stori Glyn Ashton 'Cyfeillion' yn Storïau Awr Hamdden, cyf. 5, casglwyd gan Urien Wiliam (Abertawe, 1979), tt. 7-17]; a drafft anghyflawn stori wedi'i hysgrifennu gan mwyaf ar gefn llythyrau a dderbyniwyd c. 1937-78, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Elwyn Davies, Paul Flynn, ac Idris Ll. Foster.

Rhyw ugain o ysgrifau, erthyglau, sgyrsiau radio, etc., yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys ysgrif 'Argyfwng Arholwr'; cyfres o ysgrifau ....

Rhyw ugain o ysgrifau, erthyglau, sgyrsiau radio, etc., yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys ysgrif 'Argyfwng Arholwr'; cyfres o ysgrifau 'Clywais...' yn cynnwys atgofion am ddarlithiau R.T. Jenkins, Ifor Williams, W.J. Gruffydd ac enwogion eraill [anghyflawn]; ac ysgrif 'Pendroni Pensiynwr', 25 Rhag. 1976.

Papurau ymchwil (3 bocs) ar hanes rhyddiaith a barddoniaeth Cymru, â phwyslais arbennig ar y cyfnod 1750-1850. Mae'r deunydd yn ...,

Papurau ymchwil (3 bocs) ar hanes rhyddiaith a barddoniaeth Cymru, â phwyslais arbennig ar y cyfnod 1750-1850. Mae'r deunydd yn amrywio o fras nodiadau i benodau gorffenedig, gan gynnwys deunydd ar gyfer traethawd ymchwil Glyn Ashton 'A description of Welsh Literature, 1800-1810' (PhD Prifysgol Llundain, 1953) [NLW MSS 15,559-60C]; papurau ynglyn â'r gyfrol Rhyddiaith Gymraeg 1750-1850 (Caerdydd, 1988); a drafft llawysgrif ei bennod 'Literature in Welsh, c. 1770-1900' yn Glamorgan County History, cyf. VI, gol. gan Prys Morgan (Cardiff, 1988), tt. 333-52, ynghyd â sylwadau'r Athro Ceri Lewis ar y gwaith, 1985. Ceir hefyd nodiadau a chyfeiriadau llyfryddol; a deunydd crai erthyglau a gyhoeddwyd yn Diwinyddiaeth, Llên Cymru, Y Traethodydd, a chylchgronau eraill. Defnyddiwyd cefnau llythyrau, amlenni, taflenni, etc., ar gyfer llawer o'r nodiadau. Defnyddiwyd hefyd gefn llawysgrifau gweithiau llenyddol o'i eiddo gan gynnwys Angau yn y Crochan (Dinbych, 1969).

Papurau ymchwil (2 focs) ar Thomas Edwards ('Twm o'r Nant', 1739-1810) gan gynnwys deunydd ar gyfer traethawd Glyn Ashton 'Bywyd ...,

Papurau ymchwil (2 focs) ar Thomas Edwards ('Twm o'r Nant', 1739-1810) gan gynnwys deunydd ar gyfer traethawd Glyn Ashton 'Bywyd a gwaith Twm o'r Nant a'i le yn hanes yr anterliwt' (MA Prifysgol Cymru, 1944) [traethawd LLGC 1944/1], a llawysgrif ei gyfrol Hunangofiant a Llythyrau Twm o'r Nant (Caerdydd, 1948).

Llythyrau a chardiau (460) at Glyn Ashton, 1927-88 a d.d., wedi'u trefnu, hyd y bo modd, yn ôl dyddiad. Mae'r ....

Llythyrau a chardiau (460) at Glyn Ashton, 1927-88 a d.d., wedi'u trefnu, hyd y bo modd, yn ôl dyddiad. Mae'r gohebwyr yn cynnwys David James Jones ('Gwenallt'), 1927 (64/1); John Lloyd-Jones, 1928-47 (64/2-3, 5, 100, 168); Gwilym R. Tilsley, 1934 (64/7); Henry Lewis, 1935-49 (64/9-12, 52, 229); Dewi Prys Thomas, 1943 (64/74); Thomas Parry, 1946-58 (64/148, 382, 388, 393, 397); Ifor Williams, 1947 (64/169); Ifan ab Owen Edwards, 1949-50 (64/235, 240, 261, 276, 303); a D. Tecwyn Lloyd, 1957 (64/391).

Llythyrau (30), 1957-8, ynglyn â phenodiad Glyn Ashton yn Geidwad Llyfrgell Salisbury, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, 1957, gan gynnwys llythyrau ...,

Llythyrau (30), 1957-8, ynglyn â phenodiad Glyn Ashton yn Geidwad Llyfrgell Salisbury, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, 1957, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Idris Ll. Foster (70/7-8), Alun Llywelyn-Williams (70/22-3), Jac L. Williams (70/24), a T.H. Parry-Williams (70/25).

Canlyniadau 1 i 20 o 36