Dangos 84 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Glyn M. Ashton, Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Beibl, cyhoeddi a hawlfraint

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi, yn enwedig cyhoeddi'r Beibl. Ymhlith y nodiadau mae llungopi o'r 'Report of the priviledged Presses Committee' yn ymwneud â chyhoeddi'r Beibl; nodiadau ar hanes y Beibl Cymraeg o dan y pennawd '250 Years Ago: The Welsh Bible'; ynghyd â dau lythyr ac amgaeëdigion oddi wrth y Bible Society.

Storïau, dramâu byrion, sgetsys, etc. (9) yn Gymraeg a Saesneg. Ceir yn eu plith ddrama fer 'Cyfeillion', ?c. 1983 [cf ...,

Storïau, dramâu byrion, sgetsys, etc. (9) yn Gymraeg a Saesneg. Ceir yn eu plith ddrama fer 'Cyfeillion', ?c. 1983 [cf. stori Glyn Ashton 'Cyfeillion' yn Storïau Awr Hamdden, cyf. 5, casglwyd gan Urien Wiliam (Abertawe, 1979), tt. 7-17]; a drafft anghyflawn stori wedi'i hysgrifennu gan mwyaf ar gefn llythyrau a dderbyniwyd c. 1937-78, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Elwyn Davies, Paul Flynn, ac Idris Ll. Foster.

Rhyw ugain o ysgrifau, erthyglau, sgyrsiau radio, etc., yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys ysgrif 'Argyfwng Arholwr'; cyfres o ysgrifau ....

Rhyw ugain o ysgrifau, erthyglau, sgyrsiau radio, etc., yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys ysgrif 'Argyfwng Arholwr'; cyfres o ysgrifau 'Clywais...' yn cynnwys atgofion am ddarlithiau R.T. Jenkins, Ifor Williams, W.J. Gruffydd ac enwogion eraill [anghyflawn]; ac ysgrif 'Pendroni Pensiynwr', 25 Rhag. 1976.

Rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys storïau yn dwyn y teitlau 'Trip Ysgol Sul' a 'Datgelu', ynghyd â phytiau amrywiol o ryddiaith.

Rhodd 2001,

Mae'r papurau a dderbyniwyd yn 2001 yn cynnwys nodiadau a drafftiau o'i erthyglau a'i ddarlithoedd; copïau o lawysgrifau; drafftiau o'i nofelau a'i ddramâu; gohebiaeth; ynghyd â chofnodion Pwyllgor Eisteddfod y Barri, 1968.

Rhodd 1992,

Papurau ymchwil; ysgrifau ac adolygiadau; sgriptiau radio; gwaith llenyddol; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; deunydd printiedig; a phapurau amrywiol.

Rhigymu

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffolder o gerddi amrywiol ac ambell ddarn creadigol o ryddiaith yn eu mysg.

Papurau ymchwil (3 bocs) ar hanes rhyddiaith a barddoniaeth Cymru, â phwyslais arbennig ar y cyfnod 1750-1850. Mae'r deunydd yn ...,

Papurau ymchwil (3 bocs) ar hanes rhyddiaith a barddoniaeth Cymru, â phwyslais arbennig ar y cyfnod 1750-1850. Mae'r deunydd yn amrywio o fras nodiadau i benodau gorffenedig, gan gynnwys deunydd ar gyfer traethawd ymchwil Glyn Ashton 'A description of Welsh Literature, 1800-1810' (PhD Prifysgol Llundain, 1953) [NLW MSS 15,559-60C]; papurau ynglyn â'r gyfrol Rhyddiaith Gymraeg 1750-1850 (Caerdydd, 1988); a drafft llawysgrif ei bennod 'Literature in Welsh, c. 1770-1900' yn Glamorgan County History, cyf. VI, gol. gan Prys Morgan (Cardiff, 1988), tt. 333-52, ynghyd â sylwadau'r Athro Ceri Lewis ar y gwaith, 1985. Ceir hefyd nodiadau a chyfeiriadau llyfryddol; a deunydd crai erthyglau a gyhoeddwyd yn Diwinyddiaeth, Llên Cymru, Y Traethodydd, a chylchgronau eraill. Defnyddiwyd cefnau llythyrau, amlenni, taflenni, etc., ar gyfer llawer o'r nodiadau. Defnyddiwyd hefyd gefn llawysgrifau gweithiau llenyddol o'i eiddo gan gynnwys Angau yn y Crochan (Dinbych, 1969).

Canlyniadau 1 i 20 o 84