Dangos 101 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofnodion Eglwys Seilo, Llandudno,
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ysgol y Plant,

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, sef rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau yn cofnodi presenoldeb, nifer yr adnodau, a chyfraniadau yn bennaf.

Ysgol Sul (amrywiol),

Cyfrol, c. 1940, a thaflenni rhydd, [1938], [1942] a [1945], yn cofnodi cyfraniadau aelodau'r Ysgol Sul tuag at y Genhadaeth, y Ddyled a'r Ysgol; ynghyd â deuddeg o Lyfrau'r Athro, [1940x1950].

'Yr Ysgol Fawr',

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, sef rhestri aelodau'r dosbarthiadau a'r arolygwyr, ac ystadegau yn cofnodi presenoldeb, nifer yr adnodau, a chyfraniadau yn bennaf.

Llyfrau derbyniadau a thaliadau,

Mae'r gyfres yn cynnwys manylion am dderbyniadau a thaliadau ariannol yr eglwys, 1865-1935 a 1948-1978. Ymddengys fod rhai ohonynt yn perthyn i Drysorydd y Capel; yn eu plith ceir 'Llyfr Cyfrifon yr Ysgrifenydd Arianol', 1920-1935, sy'n cofnodi arian a gasglwyd ar gyfer amryw o achosion.

Llyfrau cyfraniadau misol,

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfraniadau aelodau a phlant yr eglwys, 1954-1956 a 1964-1978, at y genhadaeth, diolchgarwch a'r eisteddleoedd. Cofnodir cyfraniadau Hyfrydle yn ogystal â Seilo yn y mwyafrif o'r cyfrolau.

Llyfrau ariannol amrywiol,

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau ariannol amrywiol, 1878-1952, yn eu plith cyfrolau sy'n cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1878-1947; a chyfriflyfrau sy'n cofnodi holl weithgarwch ariannol yr eglwys, 1878-1952.

Canlyniadau 1 i 20 o 101