Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 114 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Ambrose Bebb
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Hanes

Papurau yn ymwneud â'i gyhoeddiadau ynglŷn â hanes Cymru, 1934-1951.

Etholiad Cyffredinol 1945

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o araith Saesneg gan Bebb, a oedd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn sir Gaernarfon, ar hunanlywodraeth i Gymru a chopi o'i anerchiad etholiadol a yrrwyd at etholwyr sir Gaernarfon yn ystod yr ymgyrch.

'Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr 1948'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o araith Bebb yn llywydd y dydd, Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, Awst 1948.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1948 : Pen-y-bont ar Ogwr)

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.

Dyddiadur

Mae'r dyddiadur hwn yn cofnodi pythefnos o wyliau a dreuliodd yn Ffrainc gyda'i gyfaill J. E. Daniel.

Daniel, John Edward, 1902-1962

Dyddiadur

Mae'r dyddiadur yn cynnwys nodiadau bras a luniwyd yn ddiweddarach ynglŷn â'r cyfarfod cyntaf i drafod y brotest yn erbyn yr ysgol fomio ym Mhenyberth.

Canlyniadau 61 i 80 o 114