- B
- is-fonds
- 1894-1903
Mae'r uned yn cynnwys papurau personol, 1897-1903, a phapurau llenyddol Ben Bowen, 1894-1903.
1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Mae'r uned yn cynnwys papurau personol, 1897-1903, a phapurau llenyddol Ben Bowen, 1894-1903.
Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith, 1896-1902, a barddoniaeth, 1894-1903.
Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau a drafftiau o farddoniaeth Ben Bowen yn ei lawysgrif ei hun. Maent yn cynnwys deunydd ar gyfer eisteddfodau, er enghraifft 'Pantycelyn', 'Ymadawiad Arthur' a 'Goleuni'r Byd', a cherddi eraill. Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yma yn David Bowen (gol.) Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.
Mae'r ffeil yn cynnwys pryddest 'Y Gwladgarwr' a gyfansoddwyd ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Cross Inn, Ceredigion, a cherddi eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o 'Gardd Eden', 'Y Celt' (na orffenwyd ganddo), a cherddi eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys barddoniaeth amrywiol heb ddyddiad.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi megis 'Marwnad i Sarah Jane Davies, Greenfield Hotel' ar gyfer Eisteddfod Nebo, Ystrad; 'Marwnad i Edward Meredith (groser), Llwynypia' ar gyfer Eisteddfod Tonypandy; a cherdd yn dwyn y teitl 'Cleddyf yr Arglwydd a Gideon'.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi megis 'Ac arch Duw a ddaliwyd' ar gyfer Eisteddfod Penrhiwceiber; 'Y Gwanwyn' ar gyfer Eisteddfod Merthyr Tydfil a 'Hwyrddydd Haf' ar gyfer Eisteddfod y Betws, Rhydaman.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o 'Durtur y Deffro' a gyhoeddwyd yn 1897 a llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Y Ffurfafen'. 'Gardd Gethsemane', 'Yr Iesu a wylodd' a marwnadau.
Mae'r ffeil yn cynnwys y cerddi 'Fy Nhad', 'Cyfarfyddiad Joseff a'i frodyr' a cherddi Saesneg.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o bryddest 'Williams Pantycelyn' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900 a cherddi eraill.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1900 : Liverpool, England)
Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau a chopi terfynol o 'Y Diwygiwr' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tydfil, 1901.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1901 : Merthyr Tydfil, Wales)
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a luniwyd yn ystod ei daith i Dde Affrica ac yn ystod ei arhosiad yno, 1901.
Mae'r ffeil yn cynnwys copi gorffenedig o 'Goleuni'r Byd' a ysgrifennwyd yn Ne Affrica ac a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain yn 1902, ynghyd â'r feirniadaeth ohoni gan Elfed; copi o 'Ymadawiad Arthur' ar gyfer Eisteddfod Bangor a cherddi eraill.
Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)
Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith yn ymwneud â chrefydd yn bennaf gan gynnwys pregethau ac ysgrifau diwinyddol, 1896-1902.
Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau crefyddol ar destunau yn cynnwys 'Cymundeb', 'Cymundeb Rhydd', a 'Spinther' sef amddiffyniad o'i erthygl wreiddiol ar y cymundeb a ysgrifennwyd yn Lisbon, Portiwgal, Gorffennaf 1902. Cyhoeddwyd yr atodiad i'r amddiffyniad yn Rhyddiaith Ben Bowen fel 'Cwestiwn yr Atgyfodiad'.
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o lythyrau ar gyfer Y Tyst a Tarian y Gweithiwr ynglŷn â diarddel Ben Bowen gan ei gapel, Moreiah, Pentre.
Pregethau a nodiadau pregethau
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau, cynlluniau pregethau a nodiadau gan Ben Bowen, gan gynnwys drafftiau o 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist'; nodiadau o bregethau a glywodd Ben Bowen, 1896-1899, ynghyd â nodyn gan E. K. Jones yn rhestru enwau rhai o'r traddodwyr. Cyhoeddwyd 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist' yn David Bowen (gol.), Rhyddiaith Ben Bowen, Caerdydd, 1909.
Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Cymraeg, megis drafftiau o 'Y Môr a Phrydain', 'Lili', a 'Darlun Celt Bach yr Affrig' a ysgrifennwyd yn Kimberley. Cyhoeddwyd 'Lili yn Cymru'r Plant, Hydref 1897 a 'Darlun Celt Bach yr Affrig' yn Cymru'r Plant, Hydref 1901.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Saesneg, megis drafftiau o 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher'. Cyhoeddwyd 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher' yn David Bowen, Blagur Awen Ben Bowen, Caernarfon, 1915.