Dangos 130 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen,
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cofnodion a chyfrifon amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon Pwyllgor y Pregethwyr Ieuanc, Urdd y Seren Fore, Undeb y Cymdeithasau Cymreig, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru a'r 'Aged and Infirm Ministers', 1919-1941.

Cerddi a rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.

Capel Bethel, Capel Isel ger Aberhonddu

Mae'r ffeil yn cynnwys teyrnged i David Bowen ar ei gyfraniad i fywyd y capel a'i waith yn golygu Seren yr Ysgol Sul; papurau yn ymwneud â hanes y capel a'r diaconiaid; a dogfen, 1854, yn ymwneud â pherchnogaeth darn o dir o'r enw Alltybrain yn Llandyfaelog Fach, sir Frycheiniog.

Bethel Baptist Church (Llandyfaelog Fach, Wales)

'Caneuon a thelynegion Myfyr Hefin'

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.

Cylch awen a chan (Literary Society) (Llanelli)

'Brynfab'

Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.

Brynfab, 1848-1927

Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau papur newydd am Ben Bowen; llythyrau at David Bowen yn cynnwys un gan Vincent Evans, 1905; llyfryn 'Gŵyl Llyfrau Cymru 1934' ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r ŵyl a rhaglen cwrdd dadorchuddio cofeb Ben Bowen.

Evans, Vincent, Sir, 1851-1934

Barddoniaeth 1902

Mae'r ffeil yn cynnwys copi gorffenedig o 'Goleuni'r Byd' a ysgrifennwyd yn Ne Affrica ac a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain yn 1902, ynghyd â'r feirniadaeth ohoni gan Elfed; copi o 'Ymadawiad Arthur' ar gyfer Eisteddfod Bangor a cherddi eraill.

Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)

Barddoniaeth 1900-1901

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau a chopi terfynol o 'Y Diwygiwr' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tydfil, 1901.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1901 : Merthyr Tydfil, Wales)

Barddoniaeth 1900

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o bryddest 'Williams Pantycelyn' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900 a cherddi eraill.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1900 : Liverpool, England)

Canlyniadau 101 i 120 o 130