Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 130 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen,
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau at David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at David Bowen, 1890-1955, sy'n ymwneud yn bennaf â'i waith fel awdur colofn papur newydd, a golygydd cylchgronau amrywiol a chyhoeddiadau o waith Ben Bowen.

Llythyrau at David Bowen, A-H

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Euros Bowen, Hannah Bowen (gwraig gyntaf David Bowen), Lizzie Bowen (ail wraig David Bowen), Rhiannon Bowen (merch David Bowen), Thomas Orchwy Bowen (brawd David Bowen), Ifan ab Owen Edwards, O. M. Edwards, T. I. Ellis, D. Emrys Evans, Wil Ifan, W.R.P. George, R. E. Griffiths, J. Gwyn Griffiths a D. Hopkin.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Llythyrau at David Bowen, I-O

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Norah Isaac, John Gwili Jenkins, Cynan, William John A.S., D. Gwenallt Jones, E. Cefni Jones, E. K. Jones, J. T. Jones, Moelona, Tydfil, D. T. Morgan, Eluned Morgan, T. J. Morgan a J. Dyfnallt Owen.

Isaac, Norah

Llythyrau at David Bowen, P-Z a di-gyfenw

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Iorwerth Peate, Ben Bowen Thomas, Thomas Williams (Brynfab), Lewis Valentine, Amy Parry-Williams, D. J. Williams, Eifion Wyn, Ifor Williams, Rhydwen Williams, Crwys a W. Nantlais Williams ac eraill heb gyfenwau yn cynnwys Cybi, Dyfed Hermas a Caerwyn.

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

Llythyrau i'r wasg

Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o lythyrau ar gyfer Y Tyst a Tarian y Gweithiwr ynglŷn â diarddel Ben Bowen gan ei gapel, Moreiah, Pentre.

Llythyrau oddi wrth Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a chardiau post, y mwyafrif o Kimberley a Cape Town, De Affrica, ac eraill o Gymru, wedi eu hysgrifenu at ei frawd ac aelodau eraill o'r teulu yn bennaf, gan gynnwys llythyrau at E. K. Jones a William Morgan. Mae'r rhan helaethaf o'r llythyrau yn trafod barddoniaeth, diwinyddiaeth a chyflwr ei iechyd. Cyhoeddwyd ei lythyrau yn David Bowen (gol.), Ben Bowen yn Neheudir Affrica, Llanelli, 1928 a Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.

Morgan, William, 1846-1918

Llythyrau oddi wrth David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth David Bowen at E. K. Jones, O. M. Edwards ac eraill, yn trafod materion crefyddol, Eglwys Horeb, Pump-hewl, a gwaith golygyddol David Bowen.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Llythyrau teuluol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol oddi wrth Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, a'i ferched Rhiannon, Enid a Myfanwy, tra roedd Lizzie yn yr ysbyty, ac ambell lythyr ar bynciau amrywiol gan eraill, yn cynnwys David Hopkin.

Hopkin, David, d. 1948

Llythyrau ym meddiant David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau ym meddiant David Bowen gan gynnwys tri llythyr at Ben Davies, Evesham, 1792-1804, un llythyr at Mrs Thomas, chwaer Ben Bowen, gan Ellen Hughes, 1903, a dau lythyr at David Hopkin, c. 1916.

Hopkin, David, d. 1948

Papurau addysgol

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau Ben Bowen tra roedd yn dilyn cyrsiau yn Academi Pontypridd, [1897]-[1899], Prifysgol Caergrawnt, [1898]-[1899], a Choleg Prifysgol Caerdydd, 1899-1900.

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tysteb, a gasglwyd gan E. K. Jones, i hyrwyddo taith Ben Bowen i Dde Affrica; papurau'n ymwneud â'i siwrne a'i arhosiad yn Kimberley, 1902, a cherdyn angladdol Ben Bowen, 20 Awst 1903; ynghyd â cherddi teyrnged iddo, 1903-38, yn cynnwys un yn llaw Dyfnallt.

Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950

Canlyniadau 81 i 100 o 130