- DLR2
- cyfres
- [1930 x 1949]
Mae'r gyfres yn cynnwys ysgrifau diwinyddol amrywiol.
1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Mae'r gyfres yn cynnwys ysgrifau diwinyddol amrywiol.
Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau crefyddol ar destunau yn cynnwys 'Cymundeb', 'Cymundeb Rhydd', a 'Spinther' sef amddiffyniad o'i erthygl wreiddiol ar y cymundeb a ysgrifennwyd yn Lisbon, Portiwgal, Gorffennaf 1902. Cyhoeddwyd yr atodiad i'r amddiffyniad yn Rhyddiaith Ben Bowen fel 'Cwestiwn yr Atgyfodiad'.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau David Bowen yn rhestru enwau, cyfeiriadau a'r nifer o gopïau a ofynnwyd amdanynt gan danysgrifwyr i'r llyfrau Ben Bowen yn Neheudir Affrica a Ben Bowen i'r Ieuanc, 1928-47; llythyrau gan wahanol gyhoeddwyr ynglŷn â chost tebygol cyhoeddi'r cyfrolau, 1927; llythyrau gan danysgrifwyr yn gofyn am neu'n diolch am lyfrau, 1942-8, ac anfonebau a derbyniadau, 1901-54, yn cynnwys anfoneb at David Bowen am dwy fil o gopïau o bryddest Pantycelyn, Ebrill 1901.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau o doriadau papur newydd ar bynciau yn cynnwys Ben Bowen, llenyddiaeth Myfyr Hefin a Chapel Horeb, Pump Heol, Llanelli. Y mae yma hefyd fwndel o doriadau amrywiol. Mae'r toriadau papurau newydd yn cynnwys y Llanelly Mercury, lle bu'n olygydd y golofn Gymraeg, Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul, papur a fu'n golygu am 35 mlynedd. Ceir yma hefyd rhai llythyrau, rhaglenni a deunydd amrywiol wedi eu cwmpasu yn y cyfrolau.
Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau ar amrywiol bynciau gan gynnwys ysgrifau coffadwraeth i Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, toriadau yn ymwneud â Chapel Horeb, Pump-Hewl, Llanelli a rhai emynau printiedig.
Horeb, Eglwys y Bedyddwyr (Five Roads, Wales)
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.
Richard, Timothy, 1845-1919
Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau o gerddi David Bowen, nifer ohonynt ar gyfer cystadlaethau yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag ychydig gywiriadau llawysgrif.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a chopïau gorffenedig o gerddi gan T. G. Thomas, Treboeth, gan gynnwys 'Yr Afradlon, 'Y Fordaith' ac 'O Arwain Di'.
Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith yn ymwneud â chrefydd yn bennaf gan gynnwys pregethau ac ysgrifau diwinyddol, 1896-1902.
Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith, [1890]-[1955], ysgrifau diwinyddol, [1930]-[1949] a bywgraffiadau, 1878-[c. 1955].
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau i'r plant, Yr Arglwydd Iesu a'r Plant',
Yr Aelwyd a'r plant' ac `Y Bedyddwyr a'r plant'. Hefyd, ceir yn un o'r llyfrau nodiadau fanylion treuliau cwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin am 1934-1935.
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau Cymraeg a Saesneg, [1910]-[1959].
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau Cymraeg yn bennaf, [1910]-[1954], gyda rhai Saesneg, rhestrau o bregethau, a toriadau o bregethau a ymddangosodd yn ?Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul.
Mae'r ffeil yn cynnwys dwy gyfrol o bregethau argraffedig David Bowen a ymddangosodd yn y Llanelly Mercury, Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul.
Pregethau a nodiadau pregethau
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau, cynlluniau pregethau a nodiadau gan Ben Bowen, gan gynnwys drafftiau o 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist'; nodiadau o bregethau a glywodd Ben Bowen, 1896-1899, ynghyd â nodyn gan E. K. Jones yn rhestru enwau rhai o'r traddodwyr. Cyhoeddwyd 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist' yn David Bowen (gol.), Rhyddiaith Ben Bowen, Caerdydd, 1909.
Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950
Mae'r gyfres yn cynnwys pregethau Cymraeg a Saesneg, ynghyd â rhestr o'i bregethau, pregethau i'r Chwiorydd, i'r plant ac ar gyfer angladdau, 1905-1954.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, pregethau a nodiadau llawysgrif gan David Hopkin ar bynciau megis 'Pabyddiaeth', 'Dirwest' a 'Y Bedyddwyr a'r gwaith cenhadol'. Yr oedd David Hopkin a David Bowen yn gyd-olygyddion 'Cyfres cedyrn canrif' a 'Chyfres y Bedyddwyr Ieuanc'.
Hopkin, David, d. 1948
Papurau yn ymwneud â chymdeithasau a gweithgareddau'r Bedyddwyr
Mae'r ffeil yn cynnwys llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 1950, llyfr nodiadau 'Storiau'r Plant' yn cynnwys erthyglau llawysgrif a thoriadau papur newydd a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul, a phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb y Bedyddwyr Ieuanc Cymru, 'Seren y Plant', a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.
Baptist Union of Wales
Mae'r grŵp yn cynnwys papurau ysgol a choleg, 1897-1900, gohebiaeth, 1897-1903, a deunydd amrywiol, 1897-1903.
Mae'r grŵp yn cynnwys gohebiaeth [c. 1890]-[c. 1955] a deunydd amrywiol [1890]-[1955].