- G1
- cyfres
- 1866-1998
Cofrestri anghydffurfiol yn cynnwys cofnodion ar gyfer y cyfnod, 1866-1998, ynghyd â rhai cofnodion gweinyddol eraill.
Cofrestri anghydffurfiol yn cynnwys cofnodion ar gyfer y cyfnod, 1866-1998, ynghyd â rhai cofnodion gweinyddol eraill.
Defnyddiwyd cefn y gyfrol i gofnodi ffeithiau megis enwau'r blaenoriaid yn 1915.
Cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol
Rhoddir enwau a chyfeiriadau'r aelodau, [1907]-1965 (gyda bylchau).
Cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol
Ceir enwau a chyfeiriadau'r aelodau, 1898-1961 (gyda bylchau), gan gynnwys plant yr eglwys, 1908.
'Cofrestr Genedigaethau, Bedyddiadau a Marwolaethau'
Cofrestr bedyddiadau, 1935-1976, yn cynnwys enw a dyddiad geni'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd, ynghyd â chofnodion ar gyfer marwolaethau, 1936-1977, yng nghefn y gyfrol.
Nodir y dechreuwyd defnyddio'r gyfrol o 1 Ionawr 1905 ymlaen ond ceir dyddiadau cynt na hwn fel y dyddiad y derbyniwyd yr aelodau i gymundeb. Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marwolaeth. Yng nghefn y gyfrol ceir manylion am swyddogion yr Eglwys ac am lyfrau casgliad misol y weinidogaeth, 1905-1936.
Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marw.
Cofrestr bedyddiadau: 1866-1880
Cofrestr bedyddiadau, 1866-1880, yn cynnwys enw'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd.
Cofrestr bedyddiadau, 1880-1936, yn cynnwys enw'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd.
Llyfr nodiadau a ddefnyddiwyd i restru priodasau, marwolaethau a bedyddiadau, aelodau newydd, a'r rhai a ymadawodd, 1986-1998, ynghyd â llythyrau aelodaeth, 1993-1998.
Llyfr nodiadau a ddefnyddiwyd fel cofrestr, 1973-1983, o'r aelodau newydd a'r rhai a oedd wedi gadael trwy docyn neu heb docyn, ynghyd â chofnod o'r rhai a fedyddiwyd, a briododd ac a fu farw.
Yn y gyfrol a ddisgrifir fel 'scrap book' ceir rhestri, 1916-1939, o'r aelodau newydd a dderbyniwyd a'r dull o wneud hynny ac o ba Eglwys, ynghyd â phapurau rhydd, 1947-1948, yn ymwneud â galw'r Parch. D. Tudor Jones yn weinidog i'r eglwys yn 1948. Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o'r rhai a fu farw, 1916-1938.
Cyfrol a ddefnyddiwyd i nodi presenoldeb a'r casgliad, 1983-1990.
Nodir presenoldeb yr athrawon a'u dosbarthiadau, 1920-1926.
Nodir enwau'r aelodau, cofnodion pwyllgor a'r derbyniadau a'r taliadau, 1917-1939.
Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales) Gobeithlu
Cofnodion Ysgolion Sul Engedi a Mark Lane, 1871-[1990].
Cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd
Rhestrwyd enwau'r [cyfranwyr], 1906-1944, ar ddechrau'r gyfrol a cheir cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917, yn y cefn.
'Cofnodau Eglwysig': 1882-1895
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon, 1842-1999, gan gynnwys cofrestri, llyfrau casgliadau, llyfrau'r eisteddleoedd, llyfrau'r weinidogaeth, cofrestri anghydffurfiol ac Eglwysig, llyfrau cofnodion pwyllgorau, llyfrau cofnodion, gohebiaeth, a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys a chofnodion yr Ysgol Sul.
Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales)