Dangos 184 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Llythyrau: 1975-1985

Llythyrau, 1975-1976, oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Arfon yn ymwneud â'r cynllun arfaethedig i ailddatblygu gan ddefnyddio'r Eglwys. Llythyrau, 1979-1985, yn ymwneud ag adnewyddu Eglwys Engedi, gan gynnwys adroddiad, 1979, ar gyflwr yr adeiladau.

Canlyniadau 121 i 140 o 184