Dangos 184 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Dyddlyfr' Goleufryn

Llyfr nodiadau yn cynnwys 'dyddlyfr' y Parchedig William Richard Jones ('Goleufryn', 1840-1898), gweinidog yn Eglwys Engedi, 1894-1898, ar gyfer 1863-1865; ynghyd ag adysgrifau o'i ddyddiaduron, 1867-1898, ac adysgrifau eraill, [1853]-1877; a theyrnged iddo gan ?, [1898]. Ceir hefyd 'anerchiad cenhadol' ganddo, [1879].

Goleufryn, 1840-1898

Eiddo'r eglwys

Papurau, 1937-1990, yn trafod festri Engedi, 1940-1942; gwerthu'r Mans Bryn Beuno, 1976-1977 [a brynwyd yn 1909]; ynghyd â llythyrau'n ymdrin â gwerthu'r Tŷ Capel, 1987-1988; a phapurau, 1990, yn ymwneud â phrynu tŷ arfaethedig i'r gweinidog.

Gweithredoedd

Gweithredoedd, 1809-1929, gan gynnwys cytundeb ynglŷn â chodi addoldy ar dir Capel Henwalia yn 1885; ethol swyddogion newydd yn 1886; gweithredoedd, 1906, yn ymwneud â phrynu Ysgoldy Mark Lane; prynu'r Mans sef Bryn Beuno yn 1909; ynghyd â phapurau'n gysylltiedig â chymynrodd Robert Roberts, 1929.

Canlyniadau 41 i 60 o 184