'Elfeniad o Lyfrau Casgliad y Weinidogaeth'
- A3/12
- ffeil
- 1936-1976
Yn cynnwys rhestri o'r swyddogion, 1937-1976, ac ystadegau am yr aelodaeth a chyfanswm y derbyniadau ariannol am y flwyddyn, 1936-1976.
'Elfeniad o Lyfrau Casgliad y Weinidogaeth'
Yn cynnwys rhestri o'r swyddogion, 1937-1976, ac ystadegau am yr aelodaeth a chyfanswm y derbyniadau ariannol am y flwyddyn, 1936-1976.
Papurau, 1937-1990, yn trafod festri Engedi, 1940-1942; gwerthu'r Mans Bryn Beuno, 1976-1977 [a brynwyd yn 1909]; ynghyd â llythyrau'n ymdrin â gwerthu'r Tŷ Capel, 1987-1988; a phapurau, 1990, yn ymwneud â phrynu tŷ arfaethedig i'r gweinidog.
Llyfr nodiadau yn cynnwys 'dyddlyfr' y Parchedig William Richard Jones ('Goleufryn', 1840-1898), gweinidog yn Eglwys Engedi, 1894-1898, ar gyfer 1863-1865; ynghyd ag adysgrifau o'i ddyddiaduron, 1867-1898, ac adysgrifau eraill, [1853]-1877; a theyrnged iddo gan ?, [1898]. Ceir hefyd 'anerchiad cenhadol' ganddo, [1879].
Goleufryn, 1840-1898
Papurau, 1901-1998, yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw ar Eglwys Engedi, gan gynnwys adroddiadau gan benseiri ar gyflwr yr adeilad.
Cynllun, mewn dau ran, o eisteddleoedd Eglwys Engedi gan R. J. Williams, 1907.
Cymdeithasfa'r Gaeaf 1967, 1970
Cymdeithasfa Caernarfon: Pwyllgor Ymborth
Cofnodion yn ymwneud â'r trefniadau arlwyo yn y cymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1956, 1959 a 1962. Ceir cofnodion ar gyfer 1962 yn yr ail gyfrol.
Yn cynnwys cofrestr o bresenoldeb yr aelodau; cofnodion am weithgareddau'r Gymdeithas; ac enghreifftiau o raglenni'r tymor, 1883-1886, gyda rheolau'r Gymdeithas. Ceir llyfr nodiadau hefyd yn cynnwys dyfyniadau o anerchiad Ellis Jones, yr ysgrifennydd, 'Adgofion am Enwogion y Ffydd yng nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yng Nghaernarfon', 1879, a gopïwyd gan R. O. Roberts yn 1894, a'i gyflwyno i'r Eglwys yn 1927.
Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon
Cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol Engedi yn rhestru enwau a chyfeiriadau'r oedolion a oedd yn cefnogi dirwest, [1863]-1965.
Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd Eglwys a Chynulleidfa Engedi, Caernarfon
Cylchlythyrau, 1987-1991, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a anfonwyd o'r pencadlys yng Nghaerdydd yn ymwneud â materion fel Y Gronfa Gynnal a chyfraniadau eraill.
Cyfrifon, 1975. Ymddengys fod tudalennau wedi'u tynnu o'r gyfrol hon.
Capel Moriah (Caernarfon, Wales)
'Cyfrif y Trysorydd Cyffredinol': 1955-1976
Tri llyfr nodiadau'n cynnwys enwau'r 'brodyr' a fu'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd gweddi ar nosweithiau Llun, 1867-1909.
Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.
'Cronfa arbennig yr adeiladau. Cyfraniadau'
Cofrestri gan gynnwys cofrestr y plant, 1905-1974, a Chofrestri Eglwysig, 1905-1975.