- G1
- cyfres
- 1866-1998
Cofrestri anghydffurfiol yn cynnwys cofnodion ar gyfer y cyfnod, 1866-1998, ynghyd â rhai cofnodion gweinyddol eraill.
Cofrestri anghydffurfiol yn cynnwys cofnodion ar gyfer y cyfnod, 1866-1998, ynghyd â rhai cofnodion gweinyddol eraill.
Cofrestri gan gynnwys cofrestr y plant, 1905-1974, a Chofrestri Eglwysig, 1905-1975.
Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.
Cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol Engedi yn rhestru enwau a chyfeiriadau'r oedolion a oedd yn cefnogi dirwest, [1863]-1965.
Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd Eglwys a Chynulleidfa Engedi, Caernarfon
Papurau, 1901-1998, yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw ar Eglwys Engedi, gan gynnwys adroddiadau gan benseiri ar gyflwr yr adeilad.
Llythyrau, 1940-1998, gan gynnwys rhai'n ymwneud â recordio 'Caniadaeth y Cysegr' yn 1960, a llythyrau'r Ysgrifennydd, 1986-1991.
Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.
Cofnodion yn ymwneud â phwyllgorau amrywiol yr Eglwys, 1882-1999, y swyddogion yn arbennig, ac adroddiadau am gyfarfodydd sefydlu gweinidogion.
Llyfrau cofnodion amrywiol yn ymwneud â materion fel organ yr Eglwys, 1893-1985, a chofnodion y Pwyllgor Bugeiliol, 1989-1996. Ceir hefyd gofnodion Cyngor Eglwysi Rhyddion Caernarfon, 1914-1929.
Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.
Nodir enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1898-1983. Ffurflenni a geir yn y ffeil olaf yn crynhoi'r cyfraniadau, 1992.
Papurau, 1917-1983, yn ymwneud ag Ysgol Sul Mark Lane, gan gynnwys llyfr cyfrifon a llafur, 1917-1926, a llyfr cofnodion, 1953-1973.
Ysgol Sabothol Mark Lane (Caernarfon, Wales)
Llyfrau'r Trysorydd, 1924-1991, ynghyd â ffeiliau o ohebiaeth, 1977-1994, yn ymwneud â materion ariannol.
Y Casgliad Chwarterol a'r Gronfa Gynnal
Llyfrau cyfraniadau at y Casgliad Chwarterol, 1929-1948, a'r Gronfa Gynnal, 1949-1966.
Yn eu plith mae llyfrau cofnodion, 1896-1946, llyfrau'r ysgrifennydd, 1956-[1982], llyfr cyfrifon, 1974-1980, a chofrestr, 1983-1990.