Showing 142 results

Archival description
Papurau Pennar Davies,
Print preview View:

Rhodd 1983,

Teipysgrifau chwech o'i gyfrolau cyhoeddedig a ymddangosodd rhwng 1957 a 1979 gyda rhai ychwanegiadau a newidiadau llawysgrif.

Papurau personol,

Papurau personol, [1919]- 1992, gan gynnwys llythyrau, papurau'n ymwneud â'i gyfnod yn Ysgol Sir Aberpennar a'i yrfa academaidd, ynghyd â drafftiau o'i hunangofiant.

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-[1945], gan gynnwys nifer a dderbyniodd gan ei deulu yn ystod y cyfnod y bu'n astudio yng Ngholeg Iâl, yr Unol Daleithiau ac yn ymwneud â'r gymrodoriaeth. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth William R. Rutland a llythyrau oddi wrth Mrs Fitzgerald, ei noddwraig.

Rutland, William R, (William Rutland).

Llythyrau gohebwyr cyson,

Llythyrau, [1940]-1989, oddi wrth ohebwyr cyson sef Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. Linnenberg a Geoffrey Nuttall. Ceir nifer fawr o lythyrau oddi wrth y pedwar hyn hefyd o fewn cyfres PD1.

CV a chyhoeddiadau,

Manylion bywgraffyddol am ei yrfa academaidd a'i gynnyrch llenyddol ar gyfer Who's who in the world?, 1978, ac ar gyfer cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru (Awduron mewn ysgolion), [1977]-1991, ynghyd â'i anerchiad etholiadol fel ymgeisydd etholaeth Llanelli, [etholiad cyffredinol 1966] a 'Rhagolygon wedi ymddeol'.

Nodiadau hunangofiannol,

Llyfr nodiadau yn cynnwys 'Cychwyn arall i'w hunangofiant', ynghyd â drafftiau o 'Torri Tant' a 'Iesu o Nasareth' yng nghefn y gyfrol.

Gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd,

Llyfryn yn cynnwys cyflwyniad y Parchedig Dr Gwilym H. Jones adeg ei anrhydeddu â'r radd gan Brifysgol Cymru yn 1987, ynghyd â thorion o'r wasg amdano, 1977-1983. Hefyd ceir llyfryn pan y'i derbyniwyd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1986.

'Saunders Lewis: Ewropead',

Ysgrif Catherine Daniel mewn llawysgrif [a gyhoeddwyd yn Saunders Lewis : ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950) ac a olygwyd gan Pennar Davies].

Daniel, Catherine.

'Summer Travel',

Adroddiad, 1937, mewn teipysgrif ar ei daith dri mis 13, 000 milltir [yng nghwmni cyfaill iddo Ted Taylor] yn America.

Dyddiadur,

Llungopïau o ddyddiadur 1938 (Ionawr-Chwefror), ynghyd â 26 Chwefror-26 Ebrill 1938 sydd ar ffurgf llawysgrif .

Darlledu gwasanaeth,

Papurau, 1945, y'n ymwneud â threfnu darllediad gan y BBC o wasanaeth yn yr Eglwys ar gyfer cynulleidfa yn Awstralia a Seland Newydd gan gynnwys trefn y gwasanaeth, 9 Medi 1945, llythyrau a'r sgript.

Colegau Coffa,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod y bu'n Athro a Phrifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, 1950-1959, ac yn Brifathro yng Ngholeg Coffa Abertawe, 1959-1981.

Results 1 to 20 of 142