Showing 142 results

Archival description
Papurau Pennar Davies,
Print preview View:

Rhodd 1983,

Teipysgrifau chwech o'i gyfrolau cyhoeddedig a ymddangosodd rhwng 1957 a 1979 gyda rhai ychwanegiadau a newidiadau llawysgrif.

Papurau Pennar Davies,

  • GB 0210 PENIES
  • fonds
  • 1913-1999 /

Papurau Pennar Davies, 1913-1999, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i weithiau llenyddol, ynghyd â phapurau academaidd a phapurau llenyddol.

Davies, Pennar

Papurau personol,

Papurau personol, [1919]- 1992, gan gynnwys llythyrau, papurau'n ymwneud â'i gyfnod yn Ysgol Sir Aberpennar a'i yrfa academaidd, ynghyd â drafftiau o'i hunangofiant.

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, [1926]-1992, oddi wrth aelodau o'r teulu, cyfeillion a llenorion yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei yrfa fel academydd a'i ddiddordebau ysgolheigaidd ac fel bardd a nofelydd. Ymhlith yr unigolion sy'n gohebu'n gyson mae J. Gwyn Griffiths, Nathaniel Micklem, Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. LInnenberg a Geoffrey Nuttall. Neillltuwyd ffeiliau unigol hefyd i'r pedwar olaf gan Densil Morgan (gw. cyfres PD2).

Griffiths, John Gwyn.

Llythyrau,

Llythyrau, [1945]-[1960], gan gynnwys rhai, 1946, yn ei longyfarch ar ei benodi'n Athro yng Ngholeg Bala-Bangor a llythyrau, 1947, yn ymwneud â'i waith fel golygydd y gyfrol Saunders Lewis ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950) . Ymhlith y llythyrau mae traethawd a luniodd yn 1926 yn ymwneud â Milton, cerdyn aelodaeth o Blaid Genedlaethol Cymru yn 1939 (Cangen Aberpennar) a rhifyn o Tir Newydd, Awst 1939, yn cynwys dwy gerdd ganddo.

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-[1945], gan gynnwys nifer a dderbyniodd gan ei deulu yn ystod y cyfnod y bu'n astudio yng Ngholeg Iâl, yr Unol Daleithiau ac yn ymwneud â'r gymrodoriaeth. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth William R. Rutland a llythyrau oddi wrth Mrs Fitzgerald, ei noddwraig.

Rutland, William R, (William Rutland).

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-1949. Ymhlith y gohebwyr mae Haniel Long (5), Keidrych Rhys, Aneirin [Talfan Davies] (2), H. F. B. Brett Smith, ynghyd â llythyrau ganddo at ei rieni o'r Unol Daleithiau ac oddi wrth ei fam ato ef.

Long, Haniel, 1888-1956. Interlinear to Cabeza de Vaca.

Llythyrau,

Llythyrau, [1936]-[1982], gan gynnwys rhai oddi wrth Euros [Bowen] (2) yn ymwneud â golygu cylchgrawn Y Fflam, Keidrych [Rhys] (2) a T. E. Nicholas.

Bowen, Euros.

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau,

Llythyrau, 1960-1963. Ymhlith y gohebwyr mae Gomer M. Roberts, Alwyn D. Rees (2), T. E. Nicholas, Gwenallt, ynghyd â llythyrau'n deilio o'r cyfnod y dewiswyd ef i fod yn ymgeisydd dros Llanelli yn Etholaeth Llanelli yn 1964.

Roberts, Gomer Morgan.

Llythyrau,

Llythyrau, 1960-1965, gan gynnwys rhai oddi wrth Gareth Alban Davies ac Aneirin Talfan Davies.

Davies, Gareth Alban.

Results 1 to 20 of 142