Print preview Close

Showing 113 results

Archival description
Papurau Pennar Davies, file Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, [1945]-[1960], gan gynnwys rhai, 1946, yn ei longyfarch ar ei benodi'n Athro yng Ngholeg Bala-Bangor a llythyrau, 1947, yn ymwneud â'i waith fel golygydd y gyfrol Saunders Lewis ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950) . Ymhlith y llythyrau mae traethawd a luniodd yn 1926 yn ymwneud â Milton, cerdyn aelodaeth o Blaid Genedlaethol Cymru yn 1939 (Cangen Aberpennar) a rhifyn o Tir Newydd, Awst 1939, yn cynwys dwy gerdd ganddo.

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-1949. Ymhlith y gohebwyr mae Haniel Long (5), Keidrych Rhys, Aneirin [Talfan Davies] (2), H. F. B. Brett Smith, ynghyd â llythyrau ganddo at ei rieni o'r Unol Daleithiau ac oddi wrth ei fam ato ef.

Long, Haniel, 1888-1956. Interlinear to Cabeza de Vaca.

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau,

Llythyrau, 1980-1984. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans (yn mynegi'i fwriad i ymprydio hyd angau pe bai angen os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd), Geraint Bowen, [D.] Myrddin [Lloyd] (3) a Gwyneth Lewis. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos llys Pennar Davies a charcharu'i fab Hywel Pennar gan gynnwys rhai oddi wrth Mered[ydd] [Evans], Menna Elfyn a Saunders Lewis (2), ynghyd â thaflen y cyfarfod a gynhaliwyd i gydnabod ei wasanaeth yng nghapel Ebeneser Newydd, Abertawe, 1983, a'i anerchiad 'Dydd Blynyddol y Coleg Coffa', 1984.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

Llythyrau Geoffrey Nuttall,

Llythyrau, 1966-1989, oddi wrth ei ffrind y gweinidog a'r hanesydd, o Lundain a Birmingham, yn trafod materion academaidd a'i gyhoeddiadau, ynghyd â throsiad Geoffrey Nuttall o gerdd Pennar Davies 'Moment'. Ceir hefyd ddyfyniadau o'r llythyrau hyn a rhai at Clem Linenberg wedi'u crynhoi gan [Densil Morgan].

Nuttall, Geoffrey F. (Geoffrey Fillingham), 1911-2007.

'Can diolch',

Llyfr nodiadau'n cynnwys 'Hunangofiant (unwaith eto)', ynghyd â llungopïau o adysgrifau o bum pennod o'r gwaith, a gwybodaeth achyddol.

Graddio,

Taflen ei seremoni graddio yn BA gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Lladin, 1932, ynghyd â rhestri o'r rhai fu'n llwyddiannus yn arholiadau Prifysgol Cymru, 1932-1934.

Papurau amrywiol,

Papurau, [1933]-[1936], yn ymwneud â'i gyfnod yn y coleg, gan gynnwys Rules and other information respecting members of Balliol College (1933), a llythyrau at ei rieni, 1934-1935.

Traethawd BLitt,

Traethawd 'John Bale and his dramatic works' - 'Life and work' (cyfrol 1) a 'Works' (cyfrol 2). [Cyhoeddwyd ei lyfryddiaeth A Bibliography of John Bale yn Transactions of the Oxford Bibliographical Society yn 1940].

Rhaglenni cyngherddau,

Rhaglenni cyngherddau clasurol a dramâu a fynychodd yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, 1937-1938, ac eitemau printiedig eraill.

Taflenni,

Taflen ei wasanaeth ordeinio, 21 Gorffennaf 1943, i ofalaeth yr Eglwys, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn wythnosol ganddo yn nodi trefn y gwasanaethau a llythyr bugeiliol oddi wrtho.

Cylchlythyrau,

Papurau, 1956-1979, gan gynnwys cylchlythyrau Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Chymdeithas Annibynnol Gydwladol (International Congregational Council).

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys ei anerchiad 'Y pethau nid ydynt' fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn Rhosllanerchrugog, 1973, gyda'i nodiadau; copi o'r Tyst, 26 Hydref 1978, yn cynnwys ei erthygl tudalen flaen 'Dyfodol y Coleg Coffa'; a 'Y Coleg Coffa ar hyn o bryd', [1981].

Darlithiau,

Darlithiau diwinyddol, [1968]-[1976], gan gynnwys ‘Gwenallt, bardd y ffydd’, [1968] a ‘The God of the living’ (Drew Lecture on Immorality 1976).

Sgyrsiau amrywiol,

Sgyrsiau, [1950] -1986, gan gynnwys nodiadau sgwrs ar Gwilym Hiraethog, [c.1975], 'Some eighteenth century Welsh Hymnwriters', Cymdeithas Hanes URC, 1982 ac 'Argyhoeddiadau Waldo Williams', Darlith Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a'r Fro 1986.

Erthyglau a darlithiau cyhoeddedig,

Erthyglau a darlithiau mewn teipysgrif, [1948]-[1980], gan gynnwys 'George Herbert as a literary artist: a study', Wales [Chwefror-Mawrth 1948]; 'Gwenallt', [Aneirin Talfan Davies (gol.), Gwŷr Llên (Llundain, 1948)]; 'Duw Ysbryd Glân' (darlith Gwilym Bowyer 1970 a draddodwyd dan nawdd Coleg Bala-Bangor yng Nghapel [Seion], Baker Street, Aberystwyth, ac a gyhoeddwyd); 'The fire in the thatch', Religion in Wales (1971); 'The short stories of Kate Roberts', [Triskel One (Llandybïe, 1972)]; 'Y Genedl yn y Testament Newydd', [Gwinllan a roddwyd (Llandybïe, 1972) ] a 'Saunders Lewis: morality playwright' [Triskel Two (Llandybïe, 1973)]. Ceir hefyd dorion o'r Faner o'r golofn 'Dadl llythyrau rhwng dau fardd. Barn Pennar Davies a Bobi Jones am Cerddi Cadwgan' a 'Pennar Davies v Bobi Jones', 1953-4, ynghyd â llythyrau oddi wrth Bobi Jones yn ystod y cyfnod hwn.

Jones, Bobi, 1929-2017

Results 1 to 20 of 113