Dangos 146 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Iorwerth C. Peate,
Rhagolwg argraffu Gweld:

David Peate

Papurau yn ymwneud â David Peate yn bennaf, 1848-1901 a 1949, gan gynnwys rhediad helaeth o'i ddyddiaduron, 1848-1895, ynghyd â chyfrifon, llyfr nodiadau, llythyrau ato, a chyfrol yn ymwneud â Chapel Llanbrynmair. -- Mae'r dyddiaduron cynharaf yn cofnodi pregethwyr a'u testunau ar y Sul, a nifer o enedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol. Ceir mwy o fanylion am waith David Peate a lle bu'n gweithio ar ôl 1856. Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at ei deulu, newyddion lleol, a chyfrifon.

Peate, David, 1831-1896.

Dafydd Peate

Papurau yn ymwneud â Dafydd Peate, 1936-1980, gan gynnwys llythyrau at ei rieni ar achlysur ei enedigaeth, papurau ynglŷn â'i gais i gofrestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn erbyn gwasanaeth filwrol, erthyglau a llythyrau i'r wasg ganddo, a llythyrau a chardiau cydymdeimlad yn dilyn ei farwolaeth.

Peate, Dafydd, 1936-1980

Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd, 1957

Copi teipysgrif o ddatganiad a rhestr aelodau cynhadledd Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd (International Council of Museums), 'Reunion de L'icom sur les problemes des Musees de Plein Air', Copenhagen-Stockholm, 1957; ynghyd â nodiadau gan Iorwerth Peate.

Cyfrifon (dyddlyfr) : 1867-1900

Dyddlyfr a ymddengys ei fod yn perthyn i David Peate ac un o'i feibion, George H. Peate o bosib. Mae'n cynnwys cyfrifon, 1867-1879 a 1896-1900, ac yn eu plith ceir manylion am rhenti a gasglwyd.

Coryglau

Gohebiaeth, 1938, rhwng Iorwerth Peate a F. C. Llewellyn, Cenarth, ynglŷn â'i gyfraniad i raglen radio am 'Y Coryglwr'; a thoriad o'r Tyst, 1933, 'Hen alwedigaeth yr afon. Y cwrwgl a physgotwyr Dwylan Tywi'.

Llewellyn, F. C.

Clociau

Llythyrau yn bennaf, 1962-1981, ynglŷn â gwneuthurwyr clociau, nifer ohonynt yn cyfeirio at waith Iorwerth Peate, Clock and Watch Makers in Wales (Caerdydd, 1945). Yn eu plith ceir rhai lluniau o glociau; nodiadau teipysgrif megis 'The nomenclature of sundials', 'Llandovery town clock' a 'Llandovery clockmakers'; a chopi printiedig o'r penillion, 'Myfyrdod ar y cloc yn taro'. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1943 (fwyaf) a 1945, yn ymwneud â John Tibbot yn bennaf a Samuel Roberts, yn cynnwys rhai oddi wrth W. Ambrose Bebb; Robert Evans (3); R. T. Jenkins; E. D. Jones (3); Bob Owen; a J. B. Willans.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Caseg fedi

Nodiadau bras ar ardaloedd lle ceid enghreifftiau o'r Gaseg Fedi, Y Wrach, Torri'r Gwddf, a Thorri pen y fedel; llythyrau, 1929, yn dilyn cais Iorwerth Peate am wybodaeth yn y wasg, yn cynnwys geiriau a thôn 'Can y wrach'; ynghyd â thorion papur newydd perthnasol, 1929 a 1933.

Car llusg

Llythyrau, 1936, yn bennaf gan athrawon a disgyblion ysgol yn ardaloedd Aberaeron, Maesteg, Pwllheli, a Chwilog, yn disgrifio ceir neu gartiau llusg a'r defnydd a wnaethpwyd ohonynt, yn dilyn sgwrs radio gan Iorwerth Peate.

Capel Llanbrynmair

Cyfrol yn dwyn y teitl 'Ysgolion Lyfr . . . Neu Lyfr i gadw Cyfrifon y chwech ysgol a berthyn ir Cappel issaf yn Llanbrynmair', 1822-1830 a 1834; a sy'n cynnwys 'Cyhoddiadau y Capel', 1849-1850. Yng nghefn y gyfrol ceir 'Cyfraniadau tuagat orphen talu Dyled y Capel a'r Ysgoldai'.

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

British Association for the Advancement of Science

Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.

Meirion-Jones, Gwyn I.

Bathodyn y Cymmrodorion

Llythyrau, 1978, ynglŷn â chyflwyniad bathodyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion i Iorwerth Peate, ynghyd â phapurau perthnasol, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i anerchiad.

Canlyniadau 121 i 140 o 146