Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Iorwerth C. Peate, Jones, Thomas, 1870-1955 ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau J

Llythyrau, 1928-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth Kenneth Jackson (3); M. Auronwy James; A. O. H. Jarman (2); David Jenkins (15); J. Geraint Jenkins; R. T. Jenkins (18); Dilwyn John (13); W. Goscombe John (4); Herbert Lloyd-Johnes (25); Cynan (7); Bedwyr Lewis Jones (4); Ben G. Jones (8); Bobi Jones (9); C. C. Lloyd Jones; D. Gwenallt Jones (3); D. Parry-Jones (4); Derwyn Jones; Dic Jones (2); E. K. Jones (2); Evan D. Jones (5); F. Hope-Jones; Frank Llewellyn-Jones (2); Frank Price Jones (6); G. O. Jones (10); Gerallt Jones; Gwilym Arthur Jones (3); Gwilym R. Jones (8); Gwyn Jones (2); Gwyn I. Meirion-Jones (4); Iorwerth Jones (9); J. R. Jones (4); R. Brinley Jones (10); R. Gerallt Jones (2); R. Tudur Jones (6); Sam Jones (5); T. Llew Jones (4); Tegwyn Jones (3); Thomas Jones (1870-1955) (6); a Thomas Jones (1910-1972) (3).

Jackson, Kenneth Hurlstone, 1909-1991

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954