Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Norah Isaac, cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau

Llythyrau at Norah Isaac oddi wrth Saunders Lewis, 1953-[1979], llythyrau oddi wrth hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a llythyrau pan y'i gwnaed yn Gymrawd o'r sefydliad hwnnw yn 1988.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Sgriptiau radio a theledu

Sgriptiau radio a gynhyrchwyd gan Norah Isaac, rhai y bu'n cymryd rhan ynddynt, a rhai gan bobl eraill, ynghyd â sgriptiau teledu y bu'n gysylltiedig â hwy, 1936-1976.

Sgriptiau llwyfan

Sgriptiau dramâu a lwyfanwyd gan fyfyrwyr a chwmnïau drama dan adain Norah Isaac, gan gynnwys 'Priodas waed', [1965], 'Corlannu pobl', 1983, a 'Y Penadur', 1990. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn waith gwreiddiol ganddi a'r gweddill yn sgriptiau gan eraill. Ceir hefyd gopi o Gwaith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (Lerpwl, [1874]).

Papurau eraill

Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.