Print preview Close

Showing 33 results

Archival description
Papurau Norah Isaac, file
Print preview View:

Sgriptiau teledu

Sgriptiau teledu 'Suspense. The rescuers' gan Islwyn Williams wedi'i addasu ar gyfer y teledu gan Elaine Morgan, 1963, a 'Wil Ifan', 'Ar Glawr', 1976, pan oedd Norah Isaac yn un o'r gwesteion.

Williams, Islwyn, 1903-1957

Rhaglenni nodwedd

Rhaglenni nodwedd, 1951-1985 (gyda bylchau), a baratowyd ar gyfer cyrsiau gan gynnwys 'Gwaith llafar a chyd-adrodd', Cwrs Penwythnos Urdd Gobaith Cymru, 1951, a 'Dros y Mynydd Du i Frynaman', Gŵyl Gyhoeddi Drama'r Urdd, 1985; ynghyd â sgript Gŵyl Ddewi yn Neuadd Albert, Llundain, 1958, yn arwain at eitem Coleg y Drindod sef meim, a sgriptiau pasiant hanes Sir Frycheiniog, 1958. Syniad Norah Isaac oedd hwn a wreiddiwyd mewn cwrs i athrawon cynradd y sir yn 1957. Ceir hefyd ddramodigau, [1957]-[1962], gan gynnwys rhai o'r Beibl a'i nodiadau ar gyfer llunio rhaglen mewn cwrs ym Mhlasty'r Cilgwyn, 1957.

'Y Penadur'

Sgript 'Y Penadur' a berfformiwyd gan Gwmni Buchedd Dewi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi mewn llyfr nodiadau gyda chyfarwyddiadau goleuo, manylion gwisgoedd ac yn y blaen wedi'u hychwanegu ganddi a cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan Terry James. Ceir llythyrau oddi wrth yr Archesgob George Noakes, 1989 a 1990, ac oddi wrth Paul Peter Piech, 1990. Mae emyn 'Crist yr Athro mawr, a'n dysgodd ...' gan Norah Isaac ar gefn y rhaglen.

Noakes, George, 1924-2008

Cerddi am Norah Isaac

Llungopi o gerdd 'Nora' gan Gwenallt a gyflwynwyd i Norah Isaac wedi iddi actio mewn drama gan J. B. Priestly yn 1949; 'Yr olygfa fawr' gan Brinley Richards, 1979, wedi iddo weld y pwythau a gafodd yn dilyn ei llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, 1978; 'Wynebau' gan T. Glynne [Davies], 1981; englynion 'Merch y Llwybrau', [1985] gan [J.] Eirian Davies ; ffotograff o boster E. Meirion Roberts, [1987], yn cynnwys englyn T. H. Parry-Williams iddi; 'Cywydd i gyfarch Norah Isaac' (printiedig) gan T. Gwynn Jones, 1989; a 'Cyfarchion penblwydd i Norah Isaac', papur bro Cwlwm, Rhagfyr 1994.

Yr Ysgol Gymraeg

Papurau, [1936]-[1949], yn ymwneud â gweithgareddau'r Ysgol Gymraeg, gan gynnwys torion o'r wasg am addysg Gymraeg gan gynnwys 'The value of choral speaking in speech training', Teachers world and schoolmistress, 1936; enghreifftiau o bapurau arholiad, 1943, hanes, daearyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol, Cymraeg iaith, a Saesneg, a osodwyd gan yr ysgol; rhaglen Gŵyl Ysgol a gynhaliwyd yn 1944 a chyngherddau Nadolig 1948 a 1949. Ym mhlith rhain mae llythyrau oddi wrth Cassie Davies, 1941, Mary [Vaughan Jones], [1949], Alun Llywelyn Williams, 1946, a Chyfarwyddwr Addysg Sir Forgannwg, 1949, yn cadarnhau ei bod wedi'i dewis yn ddarlithydd yng Ngholeg Y Barri. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth edmygwyr ac ymholiadau am ddysgu Cymraeg. Yn ogystal ceir adroddiad Norah Isaac, 1945, i'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Addysg yng Nghaerdydd, yn ymwneud â sut yr ymgorfforir diwylliant y gymuned i'r Ysgol Gymraeg; a ffotograffau ac enghreifftiau o waith ysgol y disgyblion.

Davies, Cassie, 1898-1988

'Ysgolion Cymraeg'

Papurau, [1943]-1963, yn ymwneud ag Ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys enghreifftiau o ymarferion iaith a gramadeg ac arholiad darllen a deall, 1943, papur iaith Cymraeg, Nadolig 1947, a barddoniaeth a gyflwynwyd i ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth; rhifyn o Yr Aelwyd, Ionawr 1950, yn cynnwys erthygl 'Ffarwelio â Miss Norah Isaac'; papurau'n ymwneud ag Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1952-1957, a'r cyfansoddiad a 'Memorandwm ar Gynllun Addysg Sir Aberteifi a lle arbennig yr "Ysgolion Cymraeg" yn y cynllun hwnnw', cyflwynedig i Awdurdod Addysg Sir Aberteifi gan Bwyllgor Gwaith Cwmni Urdd Gobaith Cymru, 1950; adroddiad Arolygwyr eu Mawrhydi, 1948, ar yr Ysgol Gymraeg, ac erthygl o'r Faner, 1949, yn cynnwys adroddiad 'Clod arolygwyr i Ysgol Gymraeg'.

Davies, Cassie, 1898-1988

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, [1955]-2003. Ymhlith y gohebwyr mae Kitty Idwal Jones yn nodi achau teulu Plas Penucha (Syr John Herbert Lewis) mewn gwahanlith o erthygl 'Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych' gan Saunders Lewis o'r Llenor, Hydref 1933, a anfonodd ati yn 1955, Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan, Gwynfor Evans, George Noakes, Daniel Evans, Islwyn [Ffowc Elis], W. R. P. George (2), Alan Llwyd, Hywel Teifi [Edwards] a Gwilym Humphreys. Y mae'r llythyr a ddyddiwyd yn 2003 oddi wrth Dewi [James] wedi'i gyfeirio at [R.] Brinley [Jones] ac yn ymwneud â'r grŵp o lythyrau oddi wrth Saunders Lewis.

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Albwm 1949

Albwm a gyflwynwyd i Norah Isaac pan oedd yn gadael yr Ysgol Gymraeg i fod yn ddarlithydd yn Y Barri, 1949. Ceir cyfarchion ar lun a gair gan y disgyblion, ynghyd â ffotograffau rhydd, [1944]-1949, o'i chyfnod yno a rhai diweddarach. Ceir hefyd lungopi o lythyr byr oddi wrth Owen [Edwards], 1942

Sgriptiau radio gan eraill

Sgriptiau radio, [1944]-[1956] (gyda bylchau), gan gynnwys 'Y band' gan D. Jacob Davies, 1944.

Davies, D. Jacob (David Jacob), 1916-1974

'Tri Chryfion Byd'

Sgript camera 'Anterliwt Tri Chryfion Byd', 1962, ar gyfer TWW; copi o Norah Isaac (golygydd), Tri Chryfion Byd (Llandysul, 1975) gyda nodiadau wedi'u hychwanegu ganddi'n ddiweddarach ar gyfer anerchiadau am anterliwtiau, ynghyd â dau ffotograff o gast Aelwyd y Barri yn 1953 a Pharti Tri Chryfion Byd yn 1994. Ceir hefyd sgript rhaglen drama ddogfen 'Profi pob peth neu Twm o'r Nant mae Cant yn y'ngalw', [?1975x1976], ynghyd â chopi o Gwaith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (Lerpwl, 1874) gyda'r tudalen deitl a thudalennau eraill yn eisiau ac yn cynnwys llythyr oddi wrth Joseph W. Hughes, 1963, yn cyflwyno'r gyfrol iddi fel gwerthfawrogiad wedi iddo weld perfformiad o'r anterliwtiau yn Llandudno y flwyddyn honno. Mae'r llyfr yn dwyn enw Edward Peate, Glanrhyd, Llanbrynmair, 1874.

Lleisiau Llên

Sgript 'copi'r Cwmni', 1975, rhaglen, 1975, a dau ffotograff, ynghyd â rhaglen Gŵyl Bro'r Preseli, 1976, pan berfformiwyd cyflwyniad llafar 'Gwyn eu byd ...' gan Gwmni Lleisiau Llên.

Cynyrchiadau llwyfan

Nodiadau, [1992], gan Norah Isaac am ei chynyrchiadau llwyfan, 1936-1992, gan gynnwys perfformiadau gan ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, ei myfyrwyr yn Y Barri a Chaerfyrddin, Cymdeithas Bro Myrddin, a Chwmni Lleisiau Llên, ynghyd â rhestr o gymeriadau y bu yn eu portreadu fel plentyn ac fel oedolyn ar y radio.

Gwyliau tramor

Papurau amrywiol yn ymwneud â theithiau Norah Isaac i Israel yn 1984 ac 1986, gan gynnwys ei hargraffiadau a cherdyn yn dangos Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ar Fur Eglwys Pater Noster yn Jerwsalem, a manylion am y bererindod i Dwrci 1985.

Results 21 to 33 of 33