Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Llythyrau oddi wrth Syr Idris Bell,

Mae'r llythyrau'n ymwneud yn bennaf â swyddogaeth D. Tecwyn Lloyd fel cyfieithydd i Idris Bell [cyhoeddwyd y gwaith fel Trwy diroedd y dwyrain yn 1946 sy'n disgrifio ymweliad â'r Aifft].

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879.

Llythyrau oddi wrth Maurice James,

Lllythyrau, 1934-1961, a ysgrifennodd Maurice James at D. Tecwyn Lloyd; ynghyd â llyfr nodiadau yn cofnodi'i daith i'r Amerig, 1957-1958. Bu'n fwriad i gyfieithu'r gwaith a'i gyhoeddi yn Y Cymro.

James, Maurice, 1916-1968

Llythyrau,

Llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn llongyfarch D. Tecwyn Lloyd ar ei lwyddiant academaidd ac ar dderbyn swyddi newydd, gwahoddiadau i ddarlithio oddi wrth gymdeithasau a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadadu ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau,

Llythyrau gan gynnwys llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn ymateb i gyhoeddiadau D. Tecwyn Lloyd fel Bore da, Lloyd (Caernarfon, 1980), Cofio rhai pethe a phethe eraill (Dinbych, 1988) a John Saunders Lewis. Cyfrol I (Dinbych, 1988); ceisiadau i adolygu llyfrau; gwahoddiadau i ddarlithio; llythyrau o gydymdeimlad wedi marwolaeth ei wraig Frances yn 1980; a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau,

Ceir llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn ymateb i lyfrau D. Tecwyn Lloyd megis Safle'r Gerbydres ac ysgrifau eraill (Llandysul, 1970), Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1972) a Hyd eithaf y ddaear: a storïau eraill (Llandysul, 1972) a gyhoeddwyd gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas; ymateb oddi wrth olygyddion cylchgronau eraill gan gynnwys Barn, Y Genhinen a Trivium a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain,

Llythyrau a chardiau Nadolig, 1951-1952, a anfonwyd at D. Tecwyn Lloyd tra'n gwenud gwaith ymchwil ar archifau'r unfed ganrif ar bymtheg yn Llyfrgell y Fatican yn Rhufain. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth ei deulu, cyfeillion, a chydweithwyr yng Ngholeg Harlech, ac ysgolheigion fel Griffith John Williams, 1952.

Williams, G. J. (Griffith John).

Papurau amrywiol,

Ymhlith y papurau ceir copi teipysgrif o'r deyrnged, 1970, a luniwyd gan y Parch. Robin Williams yn dilyn marwolaeth John Lloyd, tad D. Tecwyn Lloyd, a phenillion a luniodd D. Tecwyn Lloyd er cof am Bob Roberts, Tairfelin, [1951].

Results 1 to 20 of 207