Dangos 503 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau R. Williams Parry
Rhagolwg argraffu Gweld:

David Thomas, Bangor,

Yn amgau llythyr diddorol, dyddiedig 25 Chwefror 1917, at Miss Annie Ffoulkes oddi wrth R. Williams Parry pan oedd yn y fyddin [rhif 521b]. Cafwyd y llythyr ymhlith papurau R. Silyn Roberts.

Derwyn Jones, Bangor,

Yn amgau copi o ddwy gerdd a ymddangosodd, dan yr enw 'Llywelyn', yn Y Ford Gron; cyfieithiad R. Williams Parry o 'The Moon', W. H. Davies; ac englyn ar fedd Ann Jones ym mynwent Llanddeiniolen [gw. rhifau 6, 56, 57].

Diolch am y gyfrol Cerddi'r Gaeaf, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y canlynol,

Diolch am y gyfrol Cerddi'r Gaeaf, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y canlynol:. E. Tegla Davies (rhif 429). 'Wil Ifan' [y Parch. William Evans] (rhif 431). Idris Foster (rhif 432). T. Hudson-williams (rhif 433). John Eilian [Jones] (rhif 436). Saunders Lewis (rhif 437). Tecwyn Lloyd (rhif 438). Iorwerth C. Peate (rhif 440). Kate [Roberts] (rhif 441). 'Canwy' [y Parch. J. H. Williams] (rhif 443).

Dyddiaduron poced Myfanwy Williams Parry, wedi eu cadw'n weddol rheolaidd ac yn cynnwys sylwadau cyson ar y tywydd yn ogystal ...,

Dyddiaduron poced Myfanwy Williams Parry, wedi eu cadw'n weddol rheolaidd ac yn cynnwys sylwadau cyson ar y tywydd yn ogystal â chofnodi digwyddiadau'r dydd. Am y blynyddoedd a ganlyn:. 754 1923. 755 1940. 756 1942. 757 1944. 758 1946. 759 1947. 760 1948. 761-62 1949. 763 1950. 764-65 1951. 766-83 1952-69.

Dyddiaduron poced R. Williams Parry. Cofnodir enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a gwahanol ddyddiadau gan gynnwys dyddiadau pen blwydd a dyddiad ...,

Dyddiaduron poced R. Williams Parry. Cofnodir enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a gwahanol ddyddiadau gan gynnwys dyddiadau pen blwydd a dyddiad cyfarfod, darlith neu ddarllediad. Ceir cyfeiriadau at y s?n trwsio esgidiau a boenai R. Williams Parry a'i wraig, 1947. Nodir hefyd fanylion fel dyddiad torri ei wallt, trwsio'r car a chlywed y gôg yn canu. Am y blynyddoedd a ganlyn:. 746 1927. 747 1931. 748 1935. 749 1938. 750 1942. 751 1947. 752 1952. 753 1953.

Canlyniadau 101 i 120 o 503