Dangos 503 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau R. Williams Parry Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfrol yn cynnwys copïau glân yn llaw'r bardd o'r rhan fwyaf o'r cerddi i'w cyhoeddi yn Yr Haf A Cherddi ...,

Cyfrol yn cynnwys copïau glân yn llaw'r bardd o'r rhan fwyaf o'r cerddi i'w cyhoeddi yn Yr Haf A Cherddi Eraill. Yr unig gerddi nas ceir yw Y Gwynt (2) [t. 39], 'Yr Haf' [t. 51], 'Milwr o Feirion' [t. 109], 'Ar Gofadail' [t. 110]. Ceir yn y llawysgrif un gerdd, 'Mab y Mynydd', na chynhwyswyd mohoni yn Yr Haf A Cherddi Eraill [gw. ff. 32-3]. Ysgrifennwyd y mwyafrif o'r cerddi ar ddalennau o'r un maint ac ansawdd wedi eu rhifo, 1-63, gan y bardd cyn eu clymu wrth ei gilydd. Ar waelod rhai tudalennau rhoddir cyfarwyddyd i'r argraffwyr. Ceir nifer o amrywiadau rhwng rhai o gerddi'r llawysgrif a ffurf y cerddi fel y'u cyhoeddwyd. Pan fo teitl cerdd lawysgrif yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd nodir hynny yn y rhestr deipiedig o'r cynnwys sydd ar flaen y gyfrol. 66 ff.

Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i R. Williams Parry. Ceir rhestr cynnwys isod ac ...,

Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i R. Williams Parry. Ceir rhestr cynnwys isod ac ar flaen y gyfrol. 12 Ff. 1 Englyn: 'Eglurydd, â gwawl eiriau -----'. Dienw. 2. 'Yn y Dosbarth', gan Edgar H. Thomas (Allan o'r Traethodydd -- Gorff. 1943). 3. 'Dosparth W.E.A. Llangefni' Dienw. 4, 'Fe glywsom gryn lawer cyn hyn am Yr Ias -----' Dienw. 5. 'I R. Williams Parry', gan Dilys Cadwaladr (Rhagfyr 1951). 6. 'I Gofio R. Williams Parry', gan W. R. P. George (Ionawr 1956) [gw. rhif 585]. 7. 'Coetmor', gan y Parch. Ff[owc] Williams, Llanllechid. 8. 'Cerdd Goffa i'r Dr R. Williams Parry, Ionawr 4ydd 1956', gan y Parch. John Roberts [gw. rhifau 527, 942].

Canlyniadau 81 i 100 o 503