Showing 503 results

Archival description
Papurau R. Williams Parry Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Brwydr Prifysgol Bangor,

Gohebiaeth yn ymwneud â’r frwydr academaidd rhwng R. Williams Parry a Syr Ifor Williams ynglŷn â’i statws fel darlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag adysgrifau o ohebiaeth rhwng R. Williams Parry a D. Emrys Evans, Prifathro’r coleg, 1932-33, a chopi teipysgrif o erthygl Tom Parry, ‘Enaid digymar heb gefnydd’ a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Gorffennaf 1972.

Parry, Thomas, 1904-1985

Bwndel o lythyrau oddi wrth unigolion ac ar ran gwahanol fudiadau a chymdeithasau yn cydymdeimlo â Myfanwy Williams Parry ar ...,

Bwndel o lythyrau oddi wrth unigolion ac ar ran gwahanol fudiadau a chymdeithasau yn cydymdeimlo â Myfanwy Williams Parry ar farwolaeth R. Williams Parry. Maent wedi eu gosod yn nhrefn y wyddor yn ôl enw'r gohebydd ac yn eu plith ceir llythyrau oddi wrth y canlynol:. J. M. Edwards (rhif 565). D. Emrys Evans (rhif 571). 'Wil Ifan' [y Parch. William Evans) (rhif 582). Idris Foster (rhif 583). W. R. P. George (rhif 585) [Amgaeir tri englyn 'I Gofio R. Williams Parry', gw. rhif 9]. Eirene Rowland Hughes (rhif 594). R. T. Jenkins (rhif 604). 'Cynan' [y Parch. Albert Evans Jones] (rhif 606). [D.] Gwenallt Jones (rhif 608). Gwilym R. Jones (rhif 613). John Gwilym Jones (rhif 616). Saunders Lewis (rhif 635). Bob Lloyd ['Llwyd o'r Bryn'] (rhif 636). D. Tecwyn Lloyd (rhi f 637). 'Leila Mégane' (rhif 642). T. J. Morgan (rhif 643). Thomas Parry (rhif 656). T. H. Parry-williams (rhif 658) [Telegram]. Iorwerth C. Peate (rhif 660). Kate Roberts (rhif 672). Mary Silyn Roberts (rhif 673). 'Meuryn' [R. J. Rowlands] (rhif 677). Lewis Valentine (rhif 687). Wynn Wheldon (rhif 688). Crwys Williams (rhif 690). G. J. Williams (rhif 697). Ifor Williams (rhif 702). Stephen J. Williams (rhif 712).

Cardiau Coffa y canlynol,

Cardiau Coffa y canlynol:. 'Alafon', y Parch. Owen Griffith Owen, bu farw 8 Chwef. 1916. Pte. Robert Einion Williams, 19 Medi 1918. Robert Silyn Roberts, 15 Awst 1930. Gareth Jones, 12 Awst 1935. Meirion Jones, 7 Ebrill 1945. David Hughes, 28 Hyd. 1946. Thomas Rowland Hughes, 24 Hyd. 1949.

Results 21 to 40 of 503