Dangos 950 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

T. Parry-jones, Bodorgan,

Anfon cerdd ar gyfer Y Llenor. Clywodd mai haws ennill y ddau lawryf cenedlaethol na chael Golygydd Y Llenor i dderbyn cerdd i brif chwarterolyn Cymru.

T. P. Ellis, Dolgellau,

Ymateb i adolygiad ar ei lyfr [Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages (Rhydychen, 1926)], sef cyfeiriad at R. T. Jenkins, 'Mr T. P. Ellis ar Gyfreithiau Hywel Dda', Y Llenor, cyf. VI (1927), tt. 6-25.

T. O. [Jones], Caernarfon,

Y mae wedi mwynhau hanes siop Evan Jonathan yn Y Llenor. Arferai fod yn lle da i brynu hen goleri a hetiau ar gyfer drama. Dyna lle y cafodd ddillad addas ar gyfer Beddau'r Proffwydi 'slawer dydd.

T. Lloyd Williams, Llundain, S.E.25,

Ymddiheuro am ei boeni ac am y ffaith na fedr ysgrifennu yn Gymraeg. Ei dad oedd y darlithydd Hebraeg cyntaf yng Ngholeg Caerdydd. Bu'n ceisio dadlau fod yna reswm tra phwysig dros ddiogelu'r iaith Gymraeg. Ni chydnabyddir Cymru fel undod gwleidyddol. Yn wahanol iawn i'r Alban a'r ddwy Iwerddon, nid oes gan Gymru ei systemau cyfreithiol a chyllidol ar wahân. Nid yw cenedligrwydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ddibynnol ar yr iaith. Yr iaith yw'r unig arf sydd gan y Cymry i gadw eu hunain rhag troi'n Saeson. Mae'n rhaid bod y ddadl hon yn iawn gan fod y Western Mail yn gwrthod ei hargraffu er gwaetha'r ffaith eu bod yn cyhoeddi sothach 'Listener-in' a Huw Menai dros y Saesneg. Ni fydd ef yn dathlu dydd y Coroniad.

T. Lloyd Evans, Penygroes,

Llythyr at olygydd Y Tyst yn cefnogi'r Athro [J. E.] Daniel yn erbyn ensyniadau W. J. Gruffydd. Ni welodd arlliw o ddaliadau gwleidyddol J. E. Daniel yn ei hyfforddiant yn y coleg. Y mae J. E. Daniel yn gefnogwr i Karl Barth ond collodd hwnnw ei gadair athrofaol am wrthsefyll Natsiaeth. Copi teipysgrif.

T. J. Rees, Abertawe,

Diolch am anfon gwahanlith o'i araith yn y Senedd. Roedd eisoes wedi darllen fersiwn byr yn y Times. Y mae'r araith yn well nag y disgwyliai.

T. J. North, Caerdydd,

Penderfynodd Cyngor yr Amgueddfa Genedlaethol anfon llythyr at W. J. Gruffydd i ddiolch iddo am ei waith yn 1943 yn llwyddo i gael pedair torch o Oes y Pres a ddarganfuwyd yng ngogledd sir Frycheiniog i ofal yr Amgueddfa.

T. J. Morgan, Radur,

Mae eisiau barn W. J. Gruffydd ar ba swydd i'w dewis erbyn diwedd y rhyfel. Pe bai'n dod yn ôl i'r Coleg byddai'n derbyn £200 yn llai na'i swydd yn y Weinyddiaeth Lafur. Nid yw'n gweld bod cadair prifysgol i ddod i'w ran am gyfnod hir. Hoffai gael swydd yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg. Bu'n ystyried swydd fel Cofrestrydd un o'r colegau. Mae'n hoffi gwaith gweinyddol erbyn hyn. Bu'n ystyried cynnig am swydd gyda'r Bwrdd Addysg hefyd. Gwahodd W. J. Gruffydd draw i drafod y mater gan ychwanegu bod yno gnwd ardderchog o wynwyn, cennin a ffa Ffrengig yn ei ddisgwyl.

T. J. Morgan, Radur,

Dyfodol Y Llenor. Ffoniodd Thomas Parry a bu Saunders Lewis yn ei weld. Trafod camddealltwriaeth yngl?n â dyfodol Y Llenor a rhan W. J. Gruffydd fel golygydd. Credai Thomas Parry a Henry Lewis mai galw cyfarfod cyhoeddus i geisio achub Y Llenor oedd yn bwysig. T. J. Morgan yn ceisio profi ei fod wedi llythyru â W. J. Gruffydd yngl?n â beth oedd ganddo ef mewn golwg. Gan mai T. J. Morgan a fu'n gyfrifol am Y Llenor er 1946 yr oedd dyletswydd arno i geisio trosglwyddo'r Llenor i ofal rhyw fwrdd neu gorff newydd. Nid oedd anhawster yngl?n ag enw'r cylchgrawn er mai Hughes a'i Fab, mae'n debyg, oedd piau'r hawlfraint. Nid yw Saunders Lewis yn fodlon cydolygu gyda W. J. Gruffydd, mae'n trefnu cael Hugh Bevan i gydolygu ag ef. Pa un yw'r gorau Llenor a Saunders Lewis yn olygydd arno neu dim Llenor o gwbl? Bu T. J. Morgan yn gweithredu'n gyfansoddiadol ar hyd y ffordd gyda'r bwriad o achub Y Llenor.

T. J. Morgan, Radur,

Anfon cân sydd wedi bod ar ei hanner ers misoedd er mwyn i W. J. Gruffydd fwrw golwg drosti. Y mae wedi bod fel 'hen gownt' yn pwyso'n drwm ar ei ysgwyddau. Mae ganddo bedair ysgrif yn barod yn y ty ac un ohonynt ar gyfer Y Llenor. Mae'n bwriadu llunio cyfrol gan ei fod yn un o'r ychydig bobl ddigyfrol yng Nghymru. Mae'n mynd i Gwm Tawe dros y Sul ac yn gobeithio cael golwg ar gynnwys Plas Penllergaer gan fod ocsiwn yno yr wythnos ganlynol.

T. J. Morgan, Radur,

Mae'n cynnig am swydd weinyddol ac yn gofyn i W. J. Gruffydd roi geirda drosto yng nghlust Pierce Jones. Collodd T. J. Morgan wythnos o waith o achos y ffliw. Ei argraff o ddarllen hanes yr Eisteddfod oedd mai rhywbeth yn digwydd tua 'Greenland oer fynyddig' oedd hi. Cyfeiriad at erthygl y Morgrugyn Cloff yn rhifyn y mis blaenorol o'r Ddraig Goch. Mae'n wir ddrwg ganddo dros [Iorwerth] Peate, mae'n amlwg mai casineb personol ei gydswyddogion sy'n gyfrifol.

T. I. Ellis, Y Rhyl,

Cywiriad i'r Llenor XVI, 2, t.85, ll.7. Ni bu J. H. Davies erioed yn yr America. Aeth ei frawd hynaf, D. C. Davies, yno tua 1890 a bu farw yno yn 1928.

T. I. Ellis, Aberystwyth,

Mae'n falch o glywed y gellir dibynnu ar gefnogaeth W. J. Gruffydd yn y Senedd i waith Undeb [Cymru Fydd]. Penderfynwyd cyflwyno enw D. R. Hughes fel Llywydd am 1943-44 ar bwys ei waith mawr dros yr Undeb. Hyderir y bydd W. J. Gruffydd yn cydsynio i fod yn un o'r Is-Lywyddion. Nid yw'r Faner yn swyddogol yn datgan polisi a barn yr Undeb. Rhoddodd lawer o gyhoeddusrwydd a chymorth - llawer mwy na'r Cymro, a fu'n glaear a hyd yn oed yn wrthwynebus i ymdrechion yr Undeb. Prif arweinwyr yr Undeb yw William George, D. R. Hughes, D. Wyre Lewis a T. I. Ellis ei hunan. Llwyddodd y rhain i ddwyn y gwaith ymlaen er gwaethaf gwahaniaethau barn.

T. Huws Davies, San Steffan,

Mae'n falch o glywed y gall W. J. Gruffydd ddod i Lundain. Awgrymu pryd a sut i gyfarfod. Wedi bwyd gyda'r nos yn ei gartref hoffai wahodd 'Elidir Sais', [William Hughes Jones, (?l884-1951), a J. O. Francis i'w gartref er mwyn iddynt gael cyfarfod W. J. Gruffydd.

T. Huws Davies, Llundain,

Diolch am gopiau o gylchlythyr W. J. Gruffydd yngl?n â'i ddrama. Mae pawb sydd yn credu yn yr ysbryd newydd yng Nghymru yn gwybod yn ddigon da mai W. J. Gruffydd yw ei broffwyd. Gofyn a welodd W. J. Gruffydd ei erthygl 'A New Wales' yn y Times ar ddydd Gwyl Dewi.

[T.] Huws [Davies], Kew Gardens, Surrey,

Collodd y cyfle o glywed W. J. Gruffydd yn rhoi ei anerchiad fel Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Atgoffa W. J. Gruffydd o'i addewid i ysgrifennu rhagair i Gylchgrawn Ceredigion Llundain.

T. Harold Morgan, Llanisien,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd ar ran Cynghrair Cymreig y Prifathrawon i ddiolch iddo am ei waith da dros addysg Gymreig yn ystod y dadleuon yngl?n â'r Bil Addysg yn y Senedd. Ysgrifenna ar ran 550 o brifathrawon Cymru.

Canlyniadau 141 i 160 o 950