Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

R. Gwylfa Roberts, Llanelli,

Ateb llythyr W. J. Gruffydd (21 Medi 1931) yngl?n â'i awgrymiadau i bwyllgor llenyddol yr Orsedd. Barn y pwyllgor yw mai trwy'r Orsedd yn hytrach nag unrhyw gorff arall oddi allan y mae cael gwelliannau ym myd yr Eisteddfod. Teimlai pawb y gallai W. J. Gruffydd a'r cyfeillion eraill a enwir fod o gymorth yn yr ymdrech i ddiwygio pethau. Fe'u gwahoddwyd i gyd i ymuno â'r Orsedd yn y modd cynhesaf. Hoffai gyhoeddi'r ohebiaeth rhyngddynt fel na byddai camargraff yn y wlad.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Mae gan Tom Parry 'awydd mawr i ymddiswyddo'. Bwriada 'Meuryn' ysgrifennu at awdurdodau Eisteddfod Machynlleth y diwrnod canlynol i ymddiswyddo o fod yn feirniad fel bod ymddiswyddiadau dau o feirniaid yr awdl yn cyrraedd yr un diwrnod. Ni chaiff 'Meuryn' gyfle arall ond fe gaiff [Tom Parry] ddigon. Gobeithio y bydd mwy eto yn dilyn arweiniad W. J. Gruffydd.

T[homas] Shankland, Bangor,

Ymddiheuro bod enw W. J. Gruffydd wedi ei hepgor o restr gyhoeddedig. Dylai fod yno. Mae'n ysgrifennu at 'Asaph' i gywiro'r gwall ar unwaith. Cerdyn post.

Charles W Baty, Caer,

Yngl?n â'r ymholiad am Ellis Wynne. Nid yw ei enw'n digwydd yng nghofrestri swyddogol yr ysgol ond gallasai fod yn ddisgybl preifat er hynny.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Anfon ysgrif i'r Llenor ['Y Diwygiad Protestannaidd', cyf. XX (1941), tt. 25-30, 77-82]. Sylwadau W. Ambrose Bebb ar adolygiad R. T. [Jenkins] ar ei lyfr [Cyfnod y Tuduriaid] yn [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 102-6].

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Nodi ei siom na chyhoeddwyd ei ysgrif. Ofna iddi fynd yn angof. Nid yw'n cytuno bod holl arweinyddion y Blaid yn ffasgiaid. Gadawodd ef y Blaid oherwydd na chytunent ag ef fod Almaen Hitler yn anwar. Y mae'n mynegi hynny eto yn Dyddiadur 1940. Gofyn i W. J. Gruffydd anwybyddu gwallau yn y gyfrol honno. Un broflen a gafodd ef ac fe gysodwyd y llyfr yn ystod y 'dyddiau uffernoll' a gafodd Abertawe.

H. Idris Bell, Yr Amgueddfa Brydeinig,

Ateb ymholiad gan W. J. Gruffydd yngl?n â dyfyniad arbennig o waith Islwyn. Beirdd hanner cyntaf y 19 ganrif â dawn i ddyfynnu o weithiau llenyddol Saesneg gwael a di-nod. Mae'r dyfyniad yn debyg i waith George Eliot, ond methiant fu'r cais i'w olrhain. Hyderu y bydd i'r Llenor oroesi'r rhyfel gan ei fod yn anhepgor i Gymru.

R. G. Berry, Gwaelod-y-garth,

Gofyn i W. J. Gruffydd ysgrifennu golygfa ar gyfnod Morgan Llwyd ar gyfer pasiant sydd i'w drefnu erbyn cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1939. [Ni chynhaliwyd y pasiant wedi'r cwbl, gweler Adroddiad ... yr Undeb yng Nghaerdydd (1939), t. 19]. Mae Mr [Iorwerth C.] Peate yn bwriadu ysgrifennu dwy olygfa a chlymu'r oll ynghyd.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Bydd yr ôl-nodiad i'r llythyr amgaeëdig [sydd ar goll] o ddiddordeb i W. J. Gruffydd. Y mae W. N. Bruce yn mynd i roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Y mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd wedi cael ei alw hefyd. W. N. Bruce yn bwriadu codi mater cyhoeddi llyfrau gosod ar gyfer pob lefel addysgol, nid rhai yn Gymraeg yn unig, er mai rheiny ddylai gael y sylw yn gyntaf.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Y mae wedi darllen erthygl W. J. Gruffydd yn y Western Mail ['The Case Against a National Council of Education for Wales', t. 11]. Dywed ei bod yn ddiddorol a dewr, er nad yw ef yn cytuno â'i safbwynt. Trafodir y syniad na ellir gweithredu cynllun W. N. Bruce heb greu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Yr ail bwynt i'w drafod yw sefydlu perthynas bendant rhwng arholiad ac archwiliad. Adroddir hanes argyfwng y Bwrdd Addysg wrth geisio dosbarthu arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru flynyddoedd ynghynt. Yr oedd Owen Edwards ac Alfred Davies i gael defnyddio'r arian fel y mynnent. Mae W. N. Bruce yn gweld eisiau ei gysylltiad a'r Brifysgol yn fawr iawn ond bu'n rhaid iddo dorri'r cysylltiad oherwydd afiechyd.

Canton High School For Girls, Caerdydd,

Deiseb gan un ar ddeg o athrawon yr ysgol yn canmol safiad W. J. Gruffydd yngl?n â'r Ddeddf Addysg ac yn gofyn iddo barhau i bwyso ar i athrawon gael defnyddio eu hamser yn gwneud eu priod waith.

Y Cymro (Edwin Williams),

Anfon copi o ddeiseb myfyrwyr diwinyddol Bangor at W. J. Gruffydd (gw. rhif 142 uchod). Cynnig rhyddid colofnau'r Cymro er mwyn i W. J. Gruffydd fedru ateb.

Results 921 to 940 of 950