Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

T. A[rtemus] J[ones], Llanrwst,

Mae'n anfon y cofnod a ysgrifennodd ynghylch safle'r iaith yn y Brawdlys. Fe'i hanfonodd at Lloyd George a ofynnai am sylwadau T. Artemus Jones ar y mater. Anfonodd gopi hefyd at yr Arglwydd Raglaw (Arglwydd Penrhyn) ac ysgrifennydd yr Arglwydd Ganghellor. Ni ddigwyddodd dim yn y cyfamser. Mae'r bai yn gorwedd ar ysgwyddau aelodau seneddol Cymru. Bydd S[aunders] L[ewis] a'i gyfeillion o flaen y Barnwr yng Nghaernarfon y dydd Mawrth canlynol. Bydd ganddynt gyfle da i gael cyhoeddusrwydd i'r anghyfiawnder.

T. A[rtemus] J[ones], Llandrindod,

Diolch am lythyr a dderbyniodd tra'n pysgota ar Lyn Fyrnwy. Cafodd annwyd yno ac y mae'n gorffen ei wyliau yn ei wely gyda laryngitis. Trafod llwon rheithwyr a swyddogion y llys. Addo anfon copi o'i femorandwm yngl?n â'r anghyfiawnder i Gymro dan y gyfundrefn bresennol. Caiff Saunders Lewis gyfle da iawn i dynnu sylw'r awdurdodau yn Llundain at y ffaith nad yw Cymro yn medru pledio ei achos yn iaith ei fam yng Nghymru. Dylai Saunders Lewis yng Nghaernarfon fod wedi efelychu Emrys ap Iwan yn Rhuthun yn 1889 drwy siarad Cymraeg yn unig. Fel y dywedodd T. P. O'Connor wrth T. Artemus Jones yr unig ddadl y mae John Bull yn ei deall 'yw cic yn ei din neu dyrniad ar ei drwyn!' Gwahoddiad i aros yn Llanrwst.

T. A[rtemus] J[ones], Bangor,

Mae newydd orffen ail-ddarlien 'Mae'r Gwylliaid ar y Ffordd', [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 112-26] o waith W. J. Gruffydd. Tybiodd ef a'i wraig ers blynyddoedd fod gormod o afael gan Gatholigion ar y Swyddfa Dramor. Gresyn nad yw yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg. 'Gyda phob parch i awdur Cwrs y Byd [Saunders Lewis] mae'r peraroglau Rhufeinig drosti i gyd!!'.

Thomas Artemus Jones, Bangor,

Amgau llythyr oddi wrth D[avid] D[avies]. Nid yw'n ei chael hi'n hawdd derbyn mai cyfartaledd isel o staff y Swyddfa Dramor sy'n Gatholigion. Hwyrach mai Catholigion pybyr yn unig a gyfrifwyd.

William Jones Llan-soe, Brynbuga,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae'n trafod dylanwad y Rhufeinwyr ar Gymru a'r Cymry. Y mae ganddo ddiddordeb mewn ieitheg Gymraeg. Gofyn am gyngor yngl?n â'r llyfrau diweddaraf ar ramadeg ac iaith.

Wmffra Jones, Patagonia,

Diolch iddo am gefnogi achos [Iorwerth] Peate mewn ffordd mor feistrolgar. Mae'r byd yn ddyledus i W. J. Gruffydd a'i fath am sefyll yn erbyn traha a gormes Nazis Prydain Fawr. Amaethwr a gwladwr syml ydyw ond yn derbyn Y Cymro yn gyson. Canmol dynion a fu'n barod i aberthu ar hyd yr oesoedd er mwyn rhyddid, e.e. Martin Luther. Bu Wmffra Jones yn byw am 50 mlynedd yn Argentina Gatholig am fod Luther wedi sefyll dros ryddid. Cam dybryd â [T. E.] Nicholas a'i fab oedd eu hanfon i garchar heb brawf yn y byd.

[H.] 'Elfed' [Lewis], Llundain N.5,

Bwriadai fod yn Lerpwl ond ni all fod yno oherwydd iddo gael damwain. Y mae'n gwella ond bydd yn rhaid iddo rodio'n araf am beth amser. Yr oedd wedi bwriadu cael trafodaeth gyfeillgar ar bwnc yr Orsedd a'r Brifysgol.

Henry Lewis, Sgeti, Abertawe,

Trafodaeth ar ddewis llyfrau. Teimlai fod Llywarch Hen yn fwy uniongyrchol lenyddol. Ond cliriwyd yr anhawster gan lythyr W. J. Gruffydd. Gofyn os gwnaiff W. J. Gruffydd ysgrifennu at Jenkin James i ddweud eu bod ill tri yn cymeradwyo G[riffith] J[ohn] Williams ar sail Gram[adegau'r] Pen[ceirddiaid]. Tynnu sylw at gyhuddiad yn Yr Athro. A ellir dwyn achos athrod yn ei erbyn? Bwriada gynghori Coleg [Abertawe] i beidio â hysbysebu yn Yr Athro o hynny ymlaen. Bu'n sâl yn ddiweddar ond y mae'n edrych ymlaen am chwe wythnos o ddiogi perffaith yn Llangrannog tan ganol Medi.

Saunders Lewis, Y Mwmbwls,

Anfon cân i'r Llenor. Ni fyddai'n synnu pe barnai W. J. Gruffydd fod ei mesur mor od a thramgwyddus ag yw ei chynnwys. Y mae'n llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei gyfraniadau ef i'r Llenor.

J. E[dward] Lloyd, Bangor,

Cafodd flas ar Y Llenor diweddaraf, yn enwedig erthygl T. I. Ellis ['Rhydychen yn yr Wythdegau', Y Llenor, cyf. XXI (1942), tt. 25-33]. Sôn am erthygl R. J. Thomas ar Dir-y-myneich ym Mhenweddig. ['Dafydd ap Gwilym a Cheredigion', Y Llenor, cyf. XXI (1942), tt. 34-6]. Sôn am erthygl ar Sieffre o Fynwy sydd ganddo ar fin ymddangos yn yr English Historical Review. Bwriad yr erthygl yw ceisio dangos i ysgolheigion tramor pa mor annibynadwy y mae'r brut.

[W. J. Gruffydd] at Roger Sherman Loomis, Efrog Newydd,

Dealla iddo dderbyn defnyddiau ar Hu Gadarn. Cyhoeddwyd adolygiad byr ar ei waith yn Y Llenor. Ceisio darbwyllo R. S. Loomis na ddylai drafod y rhestr enwau yn Culhwch nes bod y testun wedi ei astudio'n fanwl. Dylai Math ymddangos ymhen chwech wythnos. Fe anfonir copi iddo y pryd hwnnw. Copi teipysgrif.

Roger [S.] Loomis, Efrog Newydd,

Y mae'n siomedig na dderbyniodd Math hyd yma na chopi o'r Llenor. Mae'r frwydr ynghylch Celtic Myth and Arthurian Romance wedi dechrau. Cafodd ymateb oddi wrth nifer o brifysgolion Americanaidd. Trafod adolygiadau ar ei waith.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llawenhau bod America wedi ymuno yn y rhyfel. Bu diwygiad mawr yn America yn ystod y flwyddyn flaenorol mewn rhyddfrydiaeth tebyg i un canol y ganrif cynt. Mae hyn yn golygu bod gwladgarwch America yn llawer iawn mwy cytbwys nag ydoedd yn 1917. Da ganddo glywed bod gwaith W. J. Gruffydd ar y Pedair Cainc a Culhwch yn mynd ymlaen. Trafod ei erthygl ar Preiddiau Annwfn. Mae'n credu mai yr un un yw Morddwyd tyllon a Brân. Mae'n trafod pwyntiau yngl?n â marwolaeth Brân. Mae Mrs Loomis yn gweithio ar siopau llyfrau Llundain yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae hi'n credu i Chaucer ddarllen llawysgrif Auchinleck sydd yng Nghaeredin ac mai hynny a fu'n ysbrydoliaeth i'w waith Sir Thopas.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros y Brifysgol. Mae'n ofni, fodd bynnag, y bydd hynny yn llesteirio ei waith ar y Mabinogion. Rhestrir eitemau ym mywyd cyfoes yr Unol Daleithiau sy'n profi bod y Chwedl Arthuraidd yn fyw iawn o hyd. Mae'n gobeithio gorffen ei lyfr ar ffynonellau Chrétien yn y gwanwyn.

W. LL. Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,

Mae'n fodlon anfon copi o gatalog teipiedig y llawysgrifau i'r pedwar coleg. Y mae 15,000 o lawysgrifau a 130,000 o ddogfennau a phapurau yn y Llyfrgell bellach. Y mae'r staff wedi gweithio'n galed yn y tair blynedd a hanner ers i W. Ll. Davies gymryd yr awenau. Teipiwyd cymaint fyth ag a ellid o'r schedules a'u rhwymo ar gyfer eu defnyddio gan y darllenwyr. Daeth nifer helaeth o gasgliadau gwerthfawr i mewn yn ddiweddar, mwy nag erioed o'r blaen. Rhestrir rhai o'r rhestrau a baratowyd. Y mae chwech aelod o staff yn Adran y Llawysgrifau yn awr lle roedd dau, Diverres a Marjorie Hall yn 1919. Y mae ef a Miss [Irene] George yn paratoi Arweinlyfr i'r prif gasgliadau. Ni ellir sbario Miss George i adolygu'r Index to the Morris Letters er cymaint y buasai'n hoffi gwneud hynny.

Joseph Martray, Villetaneuse,

Mae'n anfon rhaglen arfaethedig y 3edd Gyngres Ryngwladol ar Gymunedau a Rhanbarthau Ewropeaidd. Fe wahoddir W. J. Gruffydd i gadeirio pwyllgor ar broblemau ieithyddol. Fe delir eu dreuliau. Ffrangeg.

[Joseph Martray], Copenhagen,

Trefniadau yngl?n â thalu tocyn trydydd dosbarth iddo o'i gartref ac yn ôl. Telir y costau teithio yn llawn ond dim ond 60 y cant o'r costau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd. Hyderir y bydd y 40% arall ar gael erbyn y Gyngres. Cyfarwyddiadau yngl?n â chodi tocyn teithio. Bydd yn derbyn arian ar gyfer y daith yn ôl gan swyddog cyllid y Gyngres. Ffrangeg.

William P. Milne, Leeds,

Estyn gwahoddiad, fel Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Swydd Efrog, i W. J. Gruffydd eu hannerch ar unrhyw destun Celtaidd. Amlinellu dibenion y gymdeithas a ffurf y cyfarfod. Y flwyddyn cynt Dr Robin Flower o'r Amgueddfa Brydeinig oedd y darlithydd gwadd a chyn hynny, yr Athro Tolkien o Rydychen. Telir ei gostau teithio ar y trên ac estynnir croeso iddo aros yng nghartref William P. Milne a'i wraig. Brodor o swydd Aberdeen yw William P. Milne.

Results 921 to 940 of 982