Hanes ymweliad ag arddangosfa yn Llundain. Gellir gwario £20 y dydd yno. Bwriada weld arddangosfa o dân gwyllt. Sôn am ei bwriad i newid ysgol. Saesneg/English.
Diolch am dâl o £54 2s 6c ar gyfrif Deian a Loli. Mae'r llyfrwerthwyr yn mynnu 331/3% o gomisiwn. Dylai'r gwerthiant wella o Ebrill ymlaen wrth i amgylchiadau cyffredinol wella. Derbynneb swyddogol. Saesneg/English.
Derbyniodd y tri thraethawd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith [yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl]. Fe'u hanfonodd at KR ddydd Llun. Awgrymu ei bod yn sylwi ar waith "Mab Gwydyr" ac "Efryd Afraid". Mae'r ail yn ysgrifwr medrus yn null Tegla [Davies]. Mae "Mab Gwydyr" yn rhoi darlun o gymdeithas drwy gyfrwng ysgrifau. Gwell gan Saunders Lewis ei waith ef. Ei duedd ef fyddai atal y Fedal oni bai ei bod hi neu Hugh Bevan yn frwd iawn dros un ohonynt. [Ataliwyd y wobr].
Mae'n bwriadu anfon llawysgrifau'r Efrydiau Catholig ati i'r swyddfa yr wythnos ganlynol. Sylwadau ar drafodaeth radio yng nghornel y llenor rhwng [D.] Tecwyn Lloyd, [Islwyn] Ffowc Elis ac R. S. Thomas. Mae'r olaf yn fardd Saesneg gwir dda ac ef oedd yr unig feddwl creadigol yn eu plith. Syniadau Seisnig ail-law oedd gan y lleill. Mae darllen beirniadaeth lenyddol Saesneg yn lladd pob annibyniaeth a gwreiddioldeb yn y beirdd a'r beirniaid ifainc Cymraeg. Dywedent nad oes bellach gorff o sumbolau a dderbynnir gan y gymdeithas ac y geill y bardd modern bwyso arno. Ond mae'r beirdd eisteddfodol i gyd o 1900 i 1953 wedi pwyso ar holl gorff y traddodiad Cristnogol. Dyna un gwahaniaeth sylfaenol rhwng sefyllfa'r bardd yng Nghymru a bardd yn Lloegr neu Ffrainc neu'r Almaen. Dynwarediad o'r Saeson yw cymaint a chymaint o'n beirniadaeth ni. Hoffai gael sgwrs gyda KR am Y Faner rywdro.
Drwg ganddo glywed am salwch KR. Mae'n addo adolygu pryddest Kitchener a beirdd Cadwgan iddi, mae'r llyfrau ganddo. [Swn y Gwynt sy'n Chwythu a Cerddi Cadwgan]. Mae ef ar ganol ysgrifennu drama i'r BBC - Siwan. Ni fydd gobaith iddo fynd ymlaen â hi tan y Calan ar ôl i'r coleg ailddechrau ymhen pythefnos. Mwynhaodd atgofion KR am ei mam yn fawr iawn. Mae'n ceisio perswadio Cyngor y Celfyddydau i roi gwobr o gan punt i R. Williams Parry am Cerddi'r Gaeaf. Gweld mwyalchen a phry genwair ar y lawnt yn ymgiprys.
Hyderu bod Y Faner wedi derbyn copi o'i gerdd Y Llen sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Aberystwyth. Gwrthododd Saunders Lewis ysgrifennu rhagair i'r gerdd ond nododd ei barodrwydd i adolygu'r gyfrol yn Y Faner. Mae'n awgrymu bod Y Faner yn gofyn i Saunders Lewis adolygu'r gyfrol felly.
Diolch am gael cyfrol David Bell i'w hadolygu. Mae'n cynnwys adolygiad ar Y Llen [Dyfnallt Morgan]. Rhoddodd lawer o feddwl i'r tri adolygiad - Kitchener Davies, Cerddi Cadwgan a'r bryddest Y Llen, gan obeithio drwyddynt roi cyfeiriad i feddwl y beirdd ifainc. Nid yw'n debyg o fedru ysgrifennu dim arbennig ar gyfer rhifyn Nadolig Y Faner. Mae wedi suddo i gyfrol D. J. [Williams], Hen Dy Ffarm. Mae'r llyfr yn gampwaith o gyfoeth dihysbydd, yn waith mawr.
Llythyr ynglyn â dyledion Treth Incwm sydd gan KR yn deillio o'i henillion breindal rhwng 1947 a 1953/4, (ynghyd â phum rhybudd o daliad oddi wrth awdurdodau'r Dreth Incwm). Saesneg/English.
Diolch am y sylw a gafodd Hen Dy Ffarm yn Y Faner. Teimlai'n benuchel a balch o gael ei ddyfynnu yng Ngholofn y Merched, cystal bob tamaid â derbyn OBE.
Dyfynnu o Haydn's Dictionary of Dates ynglyn â dyddio, e.e. newid dechrau'r flwyddyn i Ionawr y cyntaf yn 1752 yn hytrach na'r 25 Mawrth, dyddio dwbl, etc. Nodi dyddiadau talu rhenti ffermydd yng Nghymru. Gellir prynu copïau ail-law o'r llyfr dyddiadau mewn siopau llyfrwerthwyr.
Trefnwyd iddi weld arolygwr trethi yn Y Rhyl ar y 24ain o'r mis. Bu'n talu gormod o forgais i'w chwaer yng nghyfraith. Rhestru'r taliadau wedi tynnu treth ohonynt. Holi am restr o freindaliadau 1952-4. Saesneg/English.