Dangos 2413 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Doris [Strick], yn Guildford

Balch o dderbyn ei llythyr er nad oedd y cynnwys yn galonnog iawn. Sôn am ffrind a adnabu yn Aber[ystwyth] sy'n byw yn y ty yn Kingston-upon-Thames a elwir yn Robin Hill gan Galsworthy yn y Forsyte Saga. Sôn am John Rowley a'i deulu a mynd ymlaen i drafod neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Sôn am Mrs Llewelfryn Davies. Sôn am berfformiad o "Pilgrim's Progress" yn Theatr y Werin. Trafod amgylchiadau ariannol. Beirniadu'r ysgolion cyfun mawr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Doris Strick, yn Guildford

Daeth ar draws gerdyn a'i hatgoffodd o KR a bu'n siarad amdani fyth ers hynny. Gobeithio ei bod yn cofio am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Y Swistir. Mae hi yn bedwar ugain. Gwelodd gip ohoni unwaith ar raglen deledu Gymraeg. Mae'n mynd i aduniad [myfyrwyr] Aber[ystwyth] bob Pasg ond bod ei chydnabod yn prinhau'n enbyd. Cafodd ei hethol yn llywydd cangen Llundain o'r Cyn-fyfyrwyr a dyfynnodd Alun Mabon "Aros mae'r mynyddau mawr" iddynt yn ei hunig araith. Atgofion am Aberdâr. Bydd yn mynychu'r aduniad yno hefyd ac yn galw gyda'i chydnabod. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Dorothy J. Jones, yn Llandyrnog,

Ymddiheuro am fod yn hir yn dychwelyd y ffurflenni ynglyn â'r ysgol Gymraeg. Bu'n sâl ac yr oedd am gyfle i drafod addysg ei mab gyda rhywun a oedd yn deall y pwnc. Nid ydynt, fel rhieni, yn siarad Cymraeg. Ofnant y byddai addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn llesteirio datblygiad eu plentyn. Y maent, er hynny, yn awyddus iddo astudio'r Gymraeg fel pwnc. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams] (Abergwaun), yn Aber-porth,

Diolch am Te yn y Grug. Mae gan KR "ddawn ryfeddol i fynd i mewn i seicoleg plentyn a gweld y manion dyrys sy'n dryfrith mor fyw yno". Cafodd fwynhad o'r eirfa werinaidd gyfoethog a'r caredigrwydd mawr sydd yn waelod i nifer o'r cymeriadau. Mae gonestrwydd amrwd y plant yn eu gwneud yn ddiangof o fyw. Mae D. J. Williams yn tueddu creu rhyw feddalwch merfaidd ar ei gymeriadau, gymaint felly fel y dywedodd Saunders [Lewis] wrtho ryw dro fod rhai o'i storïau 'duwiolaidd' yn codi cyfog arno. Atebodd yntau gyda'r llythyr byrraf a ysgrifennodd erioed - "Damo chi, Saunders". Am ddisgrifiad llawn o'r llythyr gwelir rhestr brintiedig, "Papurau Kate Roberts, cyf. I, Gohebiaeth Kate Roberts.".

Llythyr oddi wrth G. J. W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,

Mae'n llongyfarch KR ar ei hymddiswyddiad o fod yn feirniad yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am fod y Frenhines Elisabeth II yn cael ei gwahodd yno. Mae deg o'r Pwyllgor Llenyddiaeth wedi ymddiswyddo ac yntau a Iorwerth Peate wedi ymddiswyddo o'r Cyngor. Mae'n amgau erthygl olygyddol gefnogol o'r South Wales Echo ynglyn â'r helynt. Mae aelodau ifanc y Blaid yn teimlo'n anesmwyth ynglyn â datganiad yr arweinwyr ar y pwnc.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], Llundain NW8,

Diolch i KR am ei chydymdeimlad ar farwolaeth ei gwr. Diolch hefyd am wahoddiad i aros yn Ninbych ond ni all ddod. Mae'n anodd ganddi rannu dim gydag unrhyw un. Ni fydd plentyn Daisy yn cofio ei thaid. Mae ei cholled yn llwyr. Fe roddodd 37 mlynedd o'i bywyd i ofalu amdano. Derbyniodd nifer o lythyron o Hwngari. Cafwyd teyrnged wallus ar y BBC amdano ond gwrthodwyd newid y ffeithiau. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Edie [ ] at Mai [ ], yn Whangarei,

Hoffai fedru ateb yn Gymraeg. Diolch am becyn o lyfrau a'r llun o gegin Gymreig. Gwrthwynebu dyfeisiadau modern fel y teledu. Y cyfrifoldeb o godi plant a'u tywys trwy eu harddegau. Nid yw'r capeli yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddiogelu yr ieuenctid. Nid oes ryfedd felly fod y capeli yn colli eu gafael arnynt. Nid yw yn gwybod pryd y byddant yn dychwelyd adref, mae'n dibynnu ar y bechgyn. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth E[mrys] R[oberts] at T. Glyn Davies (Cyfarwyddwr Addysg Dinbych), yn Ninbych,

Datgan pryder pwyllgor yr ysgol Gymraeg ynglyn â'r oedi i sefydlu'r ysgol. Nid ydynt yn deall paham y gwrthodwyd adeilad y Capel Mawr gan y Pwyllgor Addysg. Mae'n ysgrifennu fel aelod o'r ddirprwyaeth a gyfarfu â'r Pwyllgor Addysg yn Rhuthun ac fel blaenor yn y Capel Mawr. Mae diogelu'r iaith yn Ninbych yn fater o frys. Fel cadeirydd rheolwyr Ysgol Caledfryn fe wyr yn iawn i'r Pwyllgor Addysg dderbyn Ysgoldy Salem fel man i gynnal dosbarthiadau dros dro.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Mae'n falch o glywed bod y siol yn addas. Bwriad i fynd i Gaerdydd. Mae'n casglu enghreifftiau o dafodiaith y Rhigos. Gofynnodd Ceinwen Thomas iddi ailafael yn y gwaith ar gyfer MA gan fod perygl i'r dafodiaith ddiflannu cyn pen dim. Cafodd lawer o bethau gan ei thad - Cymraeg llafar gan nad oedd yn ddarllenwr mawr, e.e. "brachga'n llymas" sef 'marchogaeth heb gyfrwy'. Collodd lawer o eiriau drwy beidio â chyflawni'r gwaith ynghynt. Caiff hwyl ar y gwaith, er hynny, a chred ei fod yn werth yr ymdrech. Mae ganddi Gymraes o Hirwaun yn dod draw bob yn ail wythnos i wneud y cyfan yn y ty gan gynnwys y golchi a'r smwddio.

Llythyr oddi wrth Edie [ ] at Mai a'r teulu, yn Maunu Hill,

Diolch am roi croeso i'r bechgyn. Cawsant dywydd poeth iawn, 94°-95°F. Disgrifio sut y bydd yn casglu arian i'r Seventh Day Adventists. Wedi bod mewn darlith ar iachau trwy fwyta'n ofalus. Daeth y glaw o'r diwedd i dorri ar y sychder. Mae hi wrthi'n dysgu nofio. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Grettie [?Margaret Price], ym Mhontsenni,

Diolch am roi gwybod iddi am farwolaeth Betty [Eynon Davies]. Disgrifio'r olwg a gafodd arni y mis Awst blaenorol. Cafodd Sybil law drom gyda Betty a Hilda yn sâl yn eu gwelyau. Hanes y diwrnod yr aethpwyd â'r tair chwaer am dro yn y car. Camgymeriad oedd iddynt fynd i fyw mewn ty mawr hen ffasiwn ym Mhenalun. Bydd Sybil yn gweld eisiau Betty'n fawr gan nad oeddent gystal ffrindiau â Hilda. Cânt eu hatgoffa o'r dyddiau difyr yn Ystalyfera. Drwg ganddi glywed am farwolaeth brawd KR. Maent yn paratoi ar gyfer eisteddfod Sefydliad y Merched yn Aberhonddu. Saesneg/English.

Canlyniadau 1 i 20 o 2413