- 2420.
- Sub-sub-fonds
- [1914x1918]
Part of Papurau Kate Roberts
(Brawd Kate Roberts, 1895-1951, a glwyfwyd yn ddifrifol yn y Somme yn 1916).
20 results with digital objects Show results with digital objects
Part of Papurau Kate Roberts
(Brawd Kate Roberts, 1895-1951, a glwyfwyd yn ddifrifol yn y Somme yn 1916).
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyrau, &c., ynglyn â David Owen Roberts, brawd Kate Roberts - ei wasanaeth yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei glwyfo yn Salonika yn 1917 a'i farwolaeth ym Malta yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ynglyn â'i fedd ym Mynwent Filwrol Pieta, Malta, a chais i gael pensiwn milwrol i'w fam. Gweler hefyd gerdd goffa i David Owen Roberts o waith y bardd 'Tryfanwy' wedi ei fframio yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau 600.
Sgript Drama "Anterliwt" gan W. S. Jones ['Wil Sam']
Part of Papurau Kate Roberts
Sgript Drama "Anterliwt" gan W. S. Jones ['Wil Sam'], sef gwaith a gomisiynwyd gan Bwyllgor Drama Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd, 1973.
Llythyr oddi wrth Doris [Strick], yn Guildford
Part of Papurau Kate Roberts
Balch o dderbyn ei llythyr er nad oedd y cynnwys yn galonnog iawn. Sôn am ffrind a adnabu yn Aber[ystwyth] sy'n byw yn y ty yn Kingston-upon-Thames a elwir yn Robin Hill gan Galsworthy yn y Forsyte Saga. Sôn am John Rowley a'i deulu a mynd ymlaen i drafod neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Sôn am Mrs Llewelfryn Davies. Sôn am berfformiad o "Pilgrim's Progress" yn Theatr y Werin. Trafod amgylchiadau ariannol. Beirniadu'r ysgolion cyfun mawr. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Doris Strick, yn Guildford
Part of Papurau Kate Roberts
Daeth ar draws gerdyn a'i hatgoffodd o KR a bu'n siarad amdani fyth ers hynny. Gobeithio ei bod yn cofio am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Y Swistir. Mae hi yn bedwar ugain. Gwelodd gip ohoni unwaith ar raglen deledu Gymraeg. Mae'n mynd i aduniad [myfyrwyr] Aber[ystwyth] bob Pasg ond bod ei chydnabod yn prinhau'n enbyd. Cafodd ei hethol yn llywydd cangen Llundain o'r Cyn-fyfyrwyr a dyfynnodd Alun Mabon "Aros mae'r mynyddau mawr" iddynt yn ei hunig araith. Atgofion am Aberdâr. Bydd yn mynychu'r aduniad yno hefyd ac yn galw gyda'i chydnabod. Saesneg/English.
Papurau Kate Roberts, 1866-1985, papurau llenyddol a gohebiaeth yn bennaf, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, 1923-1985 (a gyhoeddwyd yn Annwyl Kate, Annwyl Saunders, gol. gan Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), ac oddi wrth ei gŵr Morris T. Williams; gohebiaeth yn ymwneud â gwahanol aelodau o deulu Kate Roberts, 1911-1977; cardiau cyfarch, 1910-1985; darlithoedd,1914-[c. 1975]; papurau'r teulu, 1950-1985; dramâu, 1931-1969; dyddiaduron, 1939, 1944 a 1978-1983, drafftiau nofelau a storiâu byrion a phapurau'n ymwneud â chyfieithu rhai ohonynt i'r Saesneg; erthyglau a nodiadau cyffredinol, [c. 1937]-1974; erthyglau a nodiadau ar lenyddiaeth,1917-1973; cyfrifon Gwasg Gee, 1934-1953; papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Dinbych, 1958-1964; nodiadau ysgol a choleg, 1904-1913; eitemau printiedig, 1898-1988; a phapurau Gwasg Aberystwyth, 1942-1944. Mae'r archif hefyd yn cynnwys grwpiau helaeth o bapurau Morris T. Williams a'u cyfaill E. Prosser Rhys. = Papers of Kate Roberts, 1866-1985, mainly literary papers and correspondence, including letters from Saunders Lewis, 1923-1985 (published in Annwyl Kate, Annwyl Saunders, ed. by Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), and from her husband Morris T. Williams; correspondence relating to various members of Kate Roberts's family, 1911-1977; greetings cards, 1910-1985; lectures, 1914-[c. 1975]; family papers, 1950-1985; plays, 1931-1969; diaries, 1939, 1944 and 1978-1983, drafts of novels and short stories and papers concerning the translation of some of them into English; articles and general notes, [c. 1937]-1974; articles and notes on literature, 1917-1973; Gwasg Gee accounts, 1934-1953; papers relating to the Welsh School at Denbigh, 1958-1964; school and college notes, 1904-1913; printed items, 1898-1988; and Aberystwyth Press papers, 1942-1944. The archive also includes extensive groups of the papers of Morris T. Williams and of their friend E. Prosser Rhys.
Roberts, Kate, 1891-1985
Llythyrau Kate Roberts at wahanol aelodau o'i theulu
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyrau at Kate Roberts (KR)
Part of Papurau Kate Roberts
Cardiau cyfarch a anfonwyd at Kate Roberts ar wahanol achlysuron
Part of Papurau Kate Roberts
Part of Papurau Kate Roberts
28 Tt. Saesneg/English.
Cyfrol o nodiadau ar ramadeg Gymraeg yn llaw Kate Roberts,
Part of Papurau Kate Roberts
41 Tt. Saesneg/English.
Part of Papurau Kate Roberts
Cyfrol yn cynnwys adran ar ramadeg Cymraeg ac adysgrif o ddarnau o farddoniaeth Gymraeg a ddefnyddiwyd gan Kate Roberts yn Ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr. 54 Tt.
Part of Papurau Kate Roberts
Cyfrol yn cynnwys papurau arholiad a osodwyd gan Kate Roberts yn Ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, 1919-24, ac un papur y Bwrdd Canol, 1926. 25 Tt. Cymraeg/Saesneg. Welsh/English.
Part of Papurau Kate Roberts
Curriculum Vitae Kate Roberts pan oedd yn 43 oed ynghyd ag adysgrifau o dystlythyrau E. Prosser Rhys, 1934, a rhai Margaret S. Cook, Prifathrawes ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, yr Athro W. J. Gruffydd, Caerdydd, a'r Athro Ifor Williams, Bangor, 1927, pan ymgeisiodd Kate Roberts am swydd dirprwy Arolygydd Ysgolion. 7 Tt. Teipysgrif. Saesneg/English.
Llyfr Cofnodion Cyd-bwyllgor Ysgol Gymraeg i Ddinbych rhwng 21 Gorffennaf 1958 a 12 Gorffennaf 1962,
Part of Papurau Kate Roberts
56 Tt.
Part of Papurau Kate Roberts
Datganiadau Banc Cyfrif Ysgol Gymraeg Dinbych rhwng 1958 a 1965 ynghyd â dwy siec a ddychwelwyd i'r Trysorydd, T. E. Roberts, Bryn Dedwydd, Dinbych. 14 Tt.
Cofnodion Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg a gyfarfu ym Mhantyfedwen, y Borth, 29-30 Mai 1959,
Part of Papurau Kate Roberts
Teipysgrif.
Part of Papurau Kate Roberts
Ffurflenni (48) gan rieni ardal Dinbych yn addo anfon eu plant i Ysgol Gymraeg Dinbych a chopi o gylchlythyr, Mehefin 1960, gan aelodau o bwyllgor yr ymgyrch.
Part of Papurau Kate Roberts
Llyfr Cofnodion Pwyllgor Ffair Ysgol Gymraeg Dinbych a gynhaliwyd ar 12 Hydref 1960, y cofnodion yn ymestyn o 29 Mehefin hyd 10 Hydref y flwyddyn honno. Ceir rhestr o enwau a chyfeiriadau cefnogwyr y ffair yng nghefn y gyfrol. 24 tt.
Part of Papurau Kate Roberts