Prynodd gopi o'i llyfr [Prynu Dol] y diwrnod cynt a daeth ei chopi rhodd gyda'r post prynhawn. Ffôniodd Eric Malthouse ddwywaith i ofyn barn Saunders Lewis ar ei ran yn y gyfrol. Lluniodd lyfr go arbennig. Yr oedd Saunders Lewis wedi darllen y cwbl o'r blaen ar wahân i'r stori olaf. Profiad pleserus oedd eu hailddarllen. Mae'n gysur iddo gofio mai ef oedd y cyntaf i dynnu sylw at y ffaith fod KR yn llenor o athrylith arbennig, a hynny cyn casglu'r straeon cyntaf yn llyfr.
Diolch am arian i brynu anrheg i'w chwaer, Neli, sydd yn Ysbyty Tregaron. Mae am brynu dyddiadur fel y bydd yn gymorth iddi gofio. Mae'n dal i ddirywio. Sôn am y Nadolig a'r llyfr Ar Gefn ei Geffyl gan Dr Richard Phillips. Disgrifio cyngerdd Nadolig go arbennig. Mae'n bwriadu dechrau cangen o Ferched y Wawr ym Mlaen Caron. Nodi bod Dr Gwenan [Jones] yn Ysbyty Ffordd y Gogledd, Aberystwyth. Mae'n siwr ei bod wrth ei bodd i gael cyflwyno Prynu Dol iddi.
Diolch am gopi o Prynu Dol a anfonwyd ato gan KR. Cafodd fwynhad dwfn o'i ddarllen. Creu allanol sydd i'w gymeriadau ef tra bod eu perfeddion gan KR yn ei straeon hi. Canmol KR am ei gwaith tra ei fod ef yn sgriblan erthyglau Saesneg i bapurau sir Benfro. Canmol J. E. [Jones] a'i brysurdeb.
Diolch i KR am ddychwelyd darlith ar ddiwygiad 1904-05. Hanesion am y diwygiad ac am agwedd [E.] Tegla [Davies] tuag ato. Sôn am ei gamgymeriad yn astudio Economeg ym Mangor. Cyfeirio at ymadawiad bendigedig D. J. Williams. Atgofion amdano. Canmol cyfraniadau KR a D. J. Williams i lenyddiaeth Gymraeg.
Pwyntiau ynglyn ag ailwampio Cae'r Gors. A ellir clirio'r rwbel y tu hwnt i'r beudy? A ellir ailosod y garreg fedd o lechen yn ei lle fel carreg yr aelwyd?. Saesneg/English.
Diolch am gwmni KR ar daith o gwmpas ysgolion ac am arian a anfonodd ati. Diolch ar ran Cymdeithas y Celfyddydau yng Ngogledd Cymru am ymgymryd â'r daith. Cafodd brofiad arbennig yn gwylio'r plant yn edmygu'r gwir lenor.
Dyddiadur am y flwyddyn 1944 gyda rhai cofnodion o'r flwyddyn honno yn llaw KR. Yn ddiweddarach fe ddefnyddiwyd y gyfrol gan KR yn llyfr cyfeiriadau. 17 Tt.
Adroddiad ar gyfer papur newydd am gyfarfod Merched y Wawr lle croesawyd Miss Gwyneth Evans gan Mrs E. C. Richards ac ymdriniaeth ag Adroddiad Gittins. 4 Tt.
Llyfr Nodiadau Ysgol Sir y Merched, Aberdâr, yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth, crefft ysgrifennu drama a rhesymau dros absenoldeb drama yn llaw Kate Roberts. Yn ogystal ceir rhestr o flynyddoedd gwin gwyn da rhwng 1911 a 1926, nifer o gyfeiriadau pobl a rhestr o lyfrau y bwriadai Kate Roberts eu prynu. 33 Tt.
Nodiadau a gadwyd gan Kate Roberts mewn llyfr nodiadau o Ysgol Sir y Merched, Aberdâr. Ymhlith y pynciau a drafodir y mae: cyfieithiad Cymraeg o "Intimations of Immortality"; y Stori Fer; Gwen Tomos Daniel Owen; llythyrau Goronwy Owen; awdl "Yr Haf" R. Williams Parry; nodweddion barddoniaeth R. Williams Parry; Ynys yr Hud W. J. Gruffydd; E. Tegla Davies; Cynan; A. E. Housman; a'r Ddrama. 60 Tt.