Print preview Close

Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Methodd fynd i Gaerdydd oherwydd gorfod mynd â'i dad at y meddyg. Gofyn i KR gydnabod siec a ddaeth at fasâr Ysgol Haf y Blaid. Canmol gwaith KR a Morris T. Williams yn y Rhondda - mae'n fodd i sefydlu'r Blaid yn y De. Mae wrthi'n casglu deunydd ar gyfer rhoi papur ar bolisi economaidd y Blaid yn yr Ysgol Haf. Blinodd ar glywed aelodau'n dweud eu bod yn y niwl ar y pwnc. Mae gan Williams Parry delyneg odidog yn Yr Efrydydd cyfredol ["Blodau'r Grug", Yr Efrydydd (Gorffennaf 1932), t 257, sef fersiwn cynnar ar "Clychau'r Gog"]'. Bu'n ateb llythyrau drwy'r bore, y rhan fwyaf ohonynt yn wahoddiadau i siarad dros y Blaid yng nghymdeithasau'r gaeaf. Ni all benderfynu ai tric i lenwi rhaglenni ydyw neu ddiddordeb cywir yn y mudiad.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Ni bydd rhyfel y rhawg. Tra na bydd rhyfel nid oes siawns i chwyldro yn Lloegr. Os daw rhyfel a gorfod rhoi arfau yn nwylo'r werin ddi-waith, yna fe fydd y chwyldro yn sicr ac yn llwyddiannus. Ni feiddia gwledydd Ewrop fynd i ryfel a gadael Lloegr yn niwtral. Peth ardderchog yw Cynghrair y Cenhedloedd. Mae'n addo ceisio dod i sosial yn y Rhondda ond ni ddaw Mair a'i wraig, Margred. Da ganddo glywed bod gan KR stori newydd. Ychydig iawn o bethau newydd, pwysig yn Gymraeg a geir mewn blwyddyn. Bu'n darllen dros ddwy act gyntaf Blodeuwedd y noson gynt a synnodd eu bod yn well nag a feddyliodd. Os caiff hamdden dros yr haf y mae'n gobeithio gorffen pedair act. Mae hynny'n golygu esgeuluso'r Blaid am dymor.

Llythyr oddi wrth Catherine Huws, yng Nghaerdydd,

Diolch am lythyr caredig ac am anfon ei stori "Y Condemniedig" ati. [Ymddangosodd y stori hon gyntaf yn Y Faner (29 Rhag. 1931), t 3]. Mae'n deall barn KR mai'r stori honno yw'r peth gorau a ysgrifennodd erioed. Mae ei gallu i roi arwyddocâd i ddigwyddiadau ac i amgylchiadau bob dydd yn arwydd sicr o'i hathrylith. Mae'n gweld mai ym mywyd pob dydd y mae trasiedi a drama. Yn hyn o beth y mae'r "Condemniedig" yn gampwaith. Trafod cerdd o waith Housman. Hydera na fydd i KR golli Ysgol Haf [y Blaid].

Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,

Mae W.J.G. bob amser yn awyddus i gynnwys gwaith KR yn Y Llenor. Bydd yn tynnu eitemau eraill allan er mwyn cynnwys ei gwaith. Bydd holi mawr am weld ei gwaith yn ymddangos. Bu'n ailddarllen ei llyfrau. Maent yn wychach nag y tybiai ar y dechrau. Ei hannog ymlaen. Hoffai gael penwythnos o drafod llenyddiaeth gyda hi a Morris T. Williams, Saunders [Lewis], G. J. Williams ac R. W. Parry. Oni fyddai'n wych?.

Llythyr oddi wrth [E.] Prosser Rhys, yn Aberystwyth,

Mae wedi darllen nofel KR ac y mae yn ei llongyfarch yn galonnog arni. Mae'n un o bethau gwychaf y ganrif hon mewn rhyddiaith [Traed mewn Cyffion]. Mae'r ysgrifennu'n odidog. Mae ynddi bethau cofiadwy iawn. Y portread medrusaf yw'r un o Sioned. Mae ôl brys ar y bennod olaf, hwyrach y gellir ei chaboli eto. Hoffai weld y stori yn cael yr un poblogrwydd â Laura Jones.

Llythyr oddi wrth Y Prifathro T[homas] Rees, Coleg yr Annibynwyr, Bangor,

Diolch i KR am ei hysgrif ar Miss Morfudd Huws. Fe ymddengys yn rhifyn Mawrth o'r Dysgedydd. ["Miss Morfudd Llwyd Huws M.A.", Y Dysgedydd 1926, tt 76-9]. Mae KR yn cyfeirio at y ffaith fod Mudiad y Myfyrwyr yn amhoblogaidd. Byddai ysgrif gan rywun a wyr beth sy'n bod yn lles mawr. Os teimla KR fel gwneud hynny bydd yn dda iawn ganddo gyhoeddi'r eitem.

Llythyr oddi wrth Winnie Parry, yn Croydon,

Diolch i KR am gywiro stori o'i heiddo. Mae'r iaith wedi newid tipyn ers i'r stori ymddangos gyntaf yng Nghymru'r Plant. Mae ei llyfr Cerrig y Rhyd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion. Trafod rhagoriaeth ffurf seml y ferf ar y ffurfiau cryno. Canmol rhai o storïau KR ac awgrymu y dylai lunio drama Saesneg i roi darlun cywir o fywyd Cymru.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Diolch i KR am ei chyfraniad diweddaraf i'r Ddraig Goch ["Ysbryd Crefft Ymhlith Merched", Y Ddraig Goch, Hydref 1926, t 6] - y peth gorau o ddigon ers "Ysbryd Crefft" Gwynn Jones ["Ysbryd Crefft", Y Tyddynnwr, Chwefror 1923, tt 181-93]. Ni ddylai adael i'r Blaid gymryd ei holl hamdden, er bod hynny yn beth rhyfedd iddo ef ei ddweud fel Llywydd y Blaid. Rhaid iddi ysgrifennu nofelau, mae hynny'n llawn cystal gwaith yn y pen draw i'r Blaid ag yw sefydlu cangen. Mae arno ofn pwyllgor y Blaid yng Nghaernarfon - maent yn wyllt a diddoethineb. Da ganddo fod H. R. Jones yn mynd i Aberystwyth i fod dan ddylanwadau gwell. Dylai Undeb Athrawon Cymru fynnu gan awdurdod addysg y Rhondda gydnabod yr Undeb ar yr un tir â'r N.U.T. Byddai cylchgrawn yn beth da ond golygai lawer o waith i rywun. Rhybuddio KR i beidio â bod yn olygydd iddo. Mae'n gweld angen undeb awduron Cymraeg i fynnu telerau teg gan gyhoeddwyr.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n addo mynd i Hirwaun ar gais KR. Mae wrthi fel lladd nadroedd yn gorffen ei lyfr ar Bantycelyn. "Y mae'n bur dda, os goddefwch imi fragio! O leiaf bydd yn dipyn o sioc i'r bobl na ddarllensant Williams drwyddo erioed". Mae Saunders Lewis yn ofni ei fod yn cytuno â KR ynglyn â nofel Morris Williams. Mae'n hyderu y caiff ei chyhoeddi er mwyn iddo fynd ymlaen i gyhoeddi un arall "lle na fydd ef ei hun yn brif fater ei waith. Nofel llanc, adolescent yw hon. Rhaid mynd heibio i lencyndod cyn y galler ei drin yn null Joyce neu neb arall o'r meistriaid". Hwyrach y bydd rhaid galw pwyllgor y Blaid tua'r Pasg yn Aberystwyth. Hydera y bydd hynny'n gyfleus iddi. Mae'n teimlo fel petai "trol wedi mynd drosof a'm gadael yn fflat a sych". Mae'n bwriadu rhoi copi o'i lyfr [ar Bantycelyn] i KR ac i Prosser Rhys a dau neu dri arall pan fydd yn ymddangos. Iddynt hwy yr ysgrifennwyd ef.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Anfon i longyfarch KR ar y newydd ei bod am briodi Morris Williams. Mae popeth sy'n digwydd iddi yn bwysig iawn ac yn ei gyffwrdd yn agos a dwfn. Cael ei hadnabod hi fu un o freintiau mawr ei fywyd. Priodas dau arwr fydd hi. Bydd bywyd yn gyfoethog os hefyd yn ystormus. Hoffai Saunders Lewis fod yna i wasgu ei llaw.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Ymateb i gais gan KR iddo ysgrifennu rhagymadrodd i'w llyfr [Rhigolau Bywyd]. Pwrpas hynny fel arfer yw rhoi hwb i'r llyfr. Nid oes angen hynny ar un o lyfrau KR "Yr ydych yn fwy na mi, Miss Roberts, yr ydych yn artist ac yn athrylith; y mae eich gwaith hefyd wedi ei gydnabod bellach". Os gwêl y cyhoeddwr fod angen rhagymadrodd y mae'n fodlon ysgrifennu cyflwyniad i'w straeon byrion hi. Gofyn am gopi o'r straeon i'w darllen ymlaen llaw. Mae'n diolch iddi am feddwl amdano yn y mater hwn.

Llythyr oddi wrth Hughes A'i Fab, yn Wrecsam,

Gwrthod cais KR i dalu breindal iddi ar y gwerthiant wedi'r ddwy fil gyntaf. Maent yn addo talu decpunt iddi os argreffir y llyfr ganddynt ar ôl gwerthu'r ddwy fil o gopïau sydd ganddi wedi eu hargraffu'n ddalennau.

Llythyr oddi wrth [E.] Prosser Rhys, yn Aberystwyth,

Cydnabod cydymdeimlad ar farwolaeth Bertha. Profiad nad â'n angof iddo oedd gwylio wrth wely'r un fach anymwybodol drwy'r nos ddwy noswaith olaf ei bywyd. Gall ddeall teimlad KR a hithau ar fin priodi. Hoffai eu gweld yn ymgartrefu yn Aberystwyth ond nid oes yno waith i Morris T. Williams ar y pryd. Nid yw'n dymuno bywyd hapus iddi - ni all artist fyw bywyd hapus. Hydera y caiff fywyd dwfn, llawn. Mae yn ei rhybuddio i beidio â disgwyl gormod oddi wrth y bywyd priodasol. Mae Morris T. Williams yn un o ragorolion y ddaear ac y mae ynddo ddefnydd artist mawr.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n llawen iawn o glywed mai yng Nghaerdydd y bwriadant fyw ar ôl priodi, yn Rhiwbeina. Y mae wedi ymddiswyddo o fod yn arholwr y Bwrdd Addysg Canol yr haf dilynol er mwyn bod yn rhydd i waith arall. Tybed a hoffai KR y gwaith? Fe gymer ryw fis llawn i'w wneud ac ni ddaw tâl hyd y Nadolig dilynol. Gellid ysgrifennu at glerc y Bwrdd Canol yn dangos diddordeb.

Llythyr oddi wrth Sal, yn Aberdâr,

Hanes arwerthiant y teulu Davies. Roedd Tabitha Davies yn awyddus iawn i gael rhywbeth. Methodd â mynychu'r arwerthiant oherwydd yr ysgol. Aeth y dreser a'r cwpwrdd cornel yn ddrud ond y gweddill am ychydig iawn. Da o beth na fedrai Miss Moses weld pwy oedd yn trafod ei phethau. Mae sefyllfa pethau yn Aberdâr ac yn enwedig yng Nghwmaman ymhell o fod yn galonogol. Diolch am gydymdeimlad KR i'w brawd a'i deulu, cawsant golled fawr. Dywedodd Mabel fod Miss Moses am iddi hi a'i theulu eistedd yng nghôr Miss Moses yn y capel. Bu hi [Sal] yn eistedd yno erioed. Nid yw yn bwriadu caniatáu iddi tra bydd [Sal] ym Methania.

Results 21 to 40 of 2492