Cyfrol O Nodiadau yn llaw Kate Roberts yn cynnwys syniadau ar gyfer y nofel Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956), ff. 1v-19, 84v-77v (tuag yn ôl); Tegwch y Bore a ymddangosodd yn Y Faner gyntaf, 1957-8, ff. 20-7; "Nodion ar gyfer Nofel newydd", ff. 28-33, sef nodiadau a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddrama gyfres "Modryb a Nith", Rhaglen Cymru'r BBC, Mai 1959; "Nodiadau Drama" sef "Y Gwas", a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, 10 Chwefror 1961, ff. 34-40; a dyfyniadau, teitlau llyfrau a rysetiau, ff. 91-87v (tuag yn ôl). 56 Tt.