Dangos 2413 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfrol a ddefnyddiwyd gyntaf gan Morris T. Williams yn llyfr cofnodion Pwyllgor Llên - Adran Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939 ...,

Cyfrol a ddefnyddiwyd gyntaf gan Morris T. Williams yn llyfr cofnodion Pwyllgor Llên - Adran Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939, ond a ddefnyddiwyd wedyn, 1966, gan Kate Roberts ar gyfer trefnu cyflwyniad "Y Glas Gledd" gyda swp o'r darlleniadau (teipysgrif) ar gyfer y rhaglen honno yn rhydd yn y gyfrol. 40 Tt. + 31 tt. yn rhydd.

Cyfrol o ddrafftiau rhai o weithiau Kate Roberts wedi eu hysgrifennu mewn hen lyfr archebion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych ...,

Cyfrol o ddrafftiau rhai o weithiau Kate Roberts wedi eu hysgrifennu mewn hen lyfr archebion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1939. Ceir drafft cynnar o ddechrau Stryd y Glep (Dinbych, 1949); drama radio mewn pedair pennod yn dwyn y teitl "Modryb a Nith", a drafft o'r ddrama radio "Y Gwas" a ddarlledwyd yn 1961. Yng nghefn y gyfrol ceir nodiadau ar gyfer stori fer "Y Tri" a gyhoeddwyd yn Thomas Parry (gol), Y Ddolen (Lerpwl, 1946), tt. 88-91. 154 Tt.

Cyfrol o dorion papur newydd a gasglwyd gan Kate Roberts yn cynnwys: pytiau teuluol; hanes Rhosgadfan a Rhostryfan; adolygiadau gan ...,

Cyfrol o dorion papur newydd a gasglwyd gan Kate Roberts yn cynnwys: pytiau teuluol; hanes Rhosgadfan a Rhostryfan; adolygiadau gan, ac ar waith Kate Roberts; ysgrifau gan Morris T. Williams ; erthyglau ar y Blaid Genedlaethol; hanes yr Ysgol Fomio; adrannau ar Saunders Lewis, R. Williams Parry, Caradog Prichard ac E. Prosser Rhys; adolygiadau ar y gyfrol Gwaed Ifanc (Wrecsam, 1923); a nifer o erthyglau amrywiol. Llungopïau ar ddalennau o bapur di-asid wedi eu rhwymo ynghyd.

Cyfrol o dorion papur newydd yn cynnwys erthyglau beirniadol ac adolygiadau ar waith KR yn enwedig O Gors y Bryniau ...,

Cyfrol o dorion papur newydd yn cynnwys erthyglau beirniadol ac adolygiadau ar waith KR yn enwedig O Gors y Bryniau a Deian a Loli; beirniadaeth KR ar gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; erthyglau beirniadol ac adolygiadau ar waith T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Williams; a cherddi gan R. Williams Parry, Caradog Prichard ac englyn yn llaw Morris T. Williams.

Cyfrol O Nodiadau yn llaw Kate Roberts yn cynnwys syniadau ar gyfer y nofel Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956) ...,

Cyfrol O Nodiadau yn llaw Kate Roberts yn cynnwys syniadau ar gyfer y nofel Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956), ff. 1v-19, 84v-77v (tuag yn ôl); Tegwch y Bore a ymddangosodd yn Y Faner gyntaf, 1957-8, ff. 20-7; "Nodion ar gyfer Nofel newydd", ff. 28-33, sef nodiadau a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddrama gyfres "Modryb a Nith", Rhaglen Cymru'r BBC, Mai 1959; "Nodiadau Drama" sef "Y Gwas", a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, 10 Chwefror 1961, ff. 34-40; a dyfyniadau, teitlau llyfrau a rysetiau, ff. 91-87v (tuag yn ôl). 56 Tt.

Canlyniadau 161 i 180 o 2413