Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Nia [ ], yng Nghaernarfon,

Diolch am siec. Mae am geisio ei gorau i fynd i'r ysgol ramadeg y flwyddyn ddilynol. Nid yw yn hoffi symiau ond bydd yn darllen llawer. Mae wedi agor llyfr cynilo yn y post efo'r siec ac yn bwriadu prynu gym shorts.

Llythyr oddi wrth Islwyn [Ffowc Elis], yng Nghaerfyrddin,

Mae'n ymddiheuro na fydd yn medru bod yng nghyfarfod anrhydeddu KR yn [Ysgol Haf y Blaid] ym Machynlleth. Mae Cronfa Deyrnged KR yn awr yn ddeuddeg cant o bunnoedd. Mae llawer yn teimlo yn amharod i achub adeilad ond yn ddigon parod i gyfrannu tuag at rodd ariannol iddi hi. Gofyn am gyfraniad ar gyfer rhifyn Nadolig Taliesin.

Llythyr oddi wrth Glyn Jones, yng Nghaerdydd,

Maent newydd ddychwelyd o'u gwyliau yn Abergwaun lle cawsant amser difyr yng nghwmni D. J. Williams a Waldo Williams. Y mae'n cytuno gyda'r syniadau a luniodd am ei nofel The Island of Apples. Mae dehongliad arall posibl sef nofel ar y bywyd mewnol. Mae'n egluro yr hyn a oedd ganddo ef mewn golwg wrth lunio'r gyfrol.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Mae'n cael pwl o bronchitis am tua thair awr bob nos cyn cysgu. Mae'n falch fod cyfrol Alun y Cilie wedi ennill gwobr yr Academi. Dylai fod hanes y llyfr yn Taliesin. Cyfeirio at ei ddarlith ar Ann Griffiths [yn Eisteddfod y Drenewydd]. Y peth sy'n ei flino fwyaf yw bod pobl yn dweud mai pregeth oedd y ddarlith ac mae sôn am ei brofiadau ef yr oedd ac nid rhai Ann Griffiths. Mae'n cael llyfrau Cymraeg i'w hadolygu gan y Western Mail ac nid oes ganddo le iddynt ar ei silffoedd, byddai'n barod i anfon rhai ati.

Llythyr oddi wrth Herbert Evans, yng Nghaer,

Atgof am David Ellis a oedd yn dysgu mewn ysgol ym Mae Colwyn. Mae'n cofio'r prifathro yn hysbysu'r ysgol iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr. Cyfarfod y prifathro'n ddiweddarach a hwnnw'n dweud nad cael ei ladd a wnaeth David Ellis ond diflannu o'r gwersyll a phriodi merch i bennaeth llwyth brodorol. Mae hanesyn tebyg gan Cynan mewn pryddest. Bu'n pregethu yn Ninmael ac yr oedd llun David Ellis yn y festri.

Llythyr oddi wrth G[wilym] Pari Huws, ym Mae Colwyn,

Mwynhaodd erthygl Kate Roberts ar David Ellis (Penyfed) yn Taliesin. Mae'n anfon copi o gywydd o eiddo David Ellis, sef 'Cywydd Gyrru Eryr i Gymru'. Atgofion am David Ellis a thrafod ei farddoniaeth. Bu'n gwasanaethu ar long o'r enw 'Warilda' yn cludo clwyfedigion o Salonica i Malta ac Alexandria nes dychwelyd i Loegr yn 1916. Copi o'r cywydd.

Llythyr oddi wrth Rita Morgan, yng Nghil-y-cwm,

Diolch am ei llythyr. Yr oedd yn fraint cael croesawu KR. Cafodd y pentrefwyr siom na chawsant gyfle i gwrdd â KR. Awgrymu dillad isaf sy'n rhoi cryn esmwythyd i'r aelodau. Trafferthion ynglyn â dysgu'r Gymraeg yn ei hysgol.

Llythyr oddi wrth Aneirin [Talfan Davies] a Mari, yng Nghaerdydd,

Diolch am ei chyfraniad i "Glas Gledd". Tybed na ddylid cyhoeddi blodeugerdd o farddoniaeth ryfel? Dylai glywed oddi wrth Lorraine Davies ynglyn â syniadau sydd ganddo am raglenni radio yn seilieidig ar waith KR. Canmol y stori "Dau Hen Ddyn" yn Barn [rhif 50, Rhag. 1966, tt 36-7 a 39]. Roedd ei hagoriad yn ei atgoffa am linellau yn nhelyneg fach Thomas Hardy i William Barnes. Awgrymu darlledu storïau KR gyntaf cyn eu cyhoeddi - byddai'n atgyfnerthiad o safbwynt cyllid iddi.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Cyrhaeddodd Tegwch y Bore ac y mae wedi gorffen y darllen mawr "ac wedi cuddio deigryn fwy nag unwaith". Mae diffuantrwydd llwyr yn perthyn i'r nofel. Llythyr oddi wrth David Jones a'r nofel hon oedd y ddau beth mawr a dderbyniodd y Nadolig hwnnw.

Results 101 to 120 of 2413