Llythyr oddi wrth R. Alun [Roberts], ym Mangor,
- 145.
- File
- 1929, Mawrth 12.
Part of Papurau Kate Roberts
Holi hynt yr anrheg gan na chlywodd iddo gyrraedd pen ei daith. Hyderu bod y cyfeiriad, 8 Lôn Isa, Rhiwbeina, yn gywir ganddo.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth R. Alun [Roberts], ym Mangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Holi hynt yr anrheg gan na chlywodd iddo gyrraedd pen ei daith. Hyderu bod y cyfeiriad, 8 Lôn Isa, Rhiwbeina, yn gywir ganddo.
Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch i Kate Roberts a Morris T. Williams am eu cysondeb a'u ffyddlondeb yn ysgrifennu i'r Ddraig Goch. Rhaid dangos wyneb caled i'r byd er nad yw rhagolygon etholiad Caernarfon yn addawol. Anodd dweud os yw'r mwyafrif o Gymry yn werth ymflino drostynt. Bwriad i ymweld â Rhiwbeina. Mae'n ceisio ysgrifennu pennod o'r "Artist yn Philistia" rhwng pob rhifyn o'r Ddraig Goch. Nid yw Saunders Lewis yn hoffi "Y Wythien Aur" fel teitl ar gyfer llyfr nesaf KR. Mae'n awgrymu iddi geisio cael enw ag aroglau'r pridd arno. Cyfeiriad at W. J. Gruffydd a'i wraig ac at yr ymgyfreithio gyda chwmni Selfridge a gostiodd ddeg punt iddo. Bydd raid iddo fynd heb win am chwe mis "yn gosb am ddweud y gwir".
Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Cydnabod llythyr cydymdeimlad [ar golli ei dad a siom na chafodd swydd yn Brifathro Coleg Caerdydd, gw. Casgliad W. J. Gruffydd rhif 731 am y llythyr gwreiddiol]. Mae pethau felly i'w disgwyl bellach ond gwyr pwy yw ei gyfeillion yn awr. Teipysgrif.
Llythyr oddi wrth J. R. T. [John Richard Williams, 'Tryfanwy'], ym Mhorthmadog,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.
Llythyr oddi wrth 'Tryf[anwy', John Richard Williams], ym Mhorthmadog,
Part of Papurau Kate Roberts
Ymddiheuro am ysgrifennu mewn pensel. Caiff feirniadaeth ar ei chân y tro nesaf. Mae ganddo gopïau o Cynfeirdd Lleyn ac yn eu gwerthu am 6/6 y copi. Fe'u cafodd hwy am bedwar swllt yr un ac y mae'n barod i'w gwerthu i KR neu eu disgyblion am y pris hwnnw. Mae ef yn gwella'n dda. Mae salwch mawr yn y dref - 200 yn sâl y diwrnod cynt a llawer yn marw. Gofyn i KR frasgyfieithu nodiadau Llydaweg iddo. Ar gefn y llythyr ceir cerdd gân KR ynglyn â marwolaeth ei brawd, David, yn y Rhyfel Mawr: "Atgof am Ddei". Ychwanegwyd pennill gan 'Tryfanwy'. Gw. Dafydd Ifans, art.cit.
Llythyr oddi wrth 'Ap Hefin' [Henry Lloyd], yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Ni ddaeth Kate Roberts i'w weld tra bu'n wael. Yr oedd wedi bwriadu anfon gair ati i'r dosbarth nos Lun ei fod yn ei wely'n sâl. Mae'n cynnwys englyn i "Fardd yr Haf". Cynhwysir hefyd ddarn o gywydd yn ei chyfarch hi.
Llythyr oddi wrth Eluned, C. G. Jones, Enid, Annie, T. R. J., Mrs Jones, Ogwen, ym Mangor,
Part of Papurau Kate Roberts
[Englyn yn cyfarch y postmon yn cynnwys cyfeiriad Kate Roberts]. Cerdyn post.
Llythyr oddi wrth W[illiam] Davies, yn Bootle, Lerpwl,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch i KR am lythyr a thaffi. Mae'n drist o glywed bod KR wedi gadael Bethania, [Aberdâr]. Ceisio dirnad ei rhesymau dros adael y capel. Mae'n ceisio esbonio'r gwahaniaeth rhwng crefydd gyfundrefnol a chrefydd yr ysbryd. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n diolch i KR am ei hadolygiad, nid am ei bod yn canmol ond am ei bod yn deall. Gofyn iddi anfon stori neu rywbeth arall i'r Llenor. Byddai cael cyfraniad ganddi yn help i hybu'r cylchgrawn yn ei ddyddiau cynnar.
Llythyr oddi wrth 'Roparz Hemon', L. P. Nemo, ym Mharis,
Part of Papurau Kate Roberts
Gofyn am ganiatâd i gyfieithu'r stori "Y Wraig Weddw" i'r Llydaweg ar gyfer Gwalarn, sef yr atodiad llenyddol i Breiz Atao. Bydd yn gyfle i'r Llydawiaid ddod i gysylltiad â llên Cymru. Mae'n ysgrifennu at W. J. Gruffydd hefyd am ganiatâd gan i'r stori ymddangos yn Y Llenor, cyfrol III (1924), tt 73-81.
Llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones, yn Aberystwyth,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am gopi o O Gors y Bryniau ac am y cyflwyniad iddo. Dychmygu beth a ddywedai 'Dic Tryfan' pe byddai fyw i ddarllen y gyfrol. Pan fydd yn darllen gwaith KR bydd yn caru ei gydwladwyr yn fawr iawn er iddo ddigio wrthynt yn aml. Y mae Tegla Davies yn cytuno â'i farn. Cafodd hi ddawn ardderchog a dysgodd grefft ardderchog hefyd. Mae'n ei chymell i ysgrifennu rhyw ddeg neu ddwsin o straeon heb eu cyhoeddi o'r blaen yn unman fel y profai'n brofiad a brisiai pob Cymro gwerth yr enw.
Llythyr oddi wrth Harry [?Cadwaladr], yn Bath, at ei chwaer a'i theulu,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n gwella'n araf. Diolch am lythyr KR. Diolch hefyd am O Gors y Bryniau. Hoffai ysgrifennu ati i ddiolch amdano ond nid yw ei chyfeiriad ganddo. Hanesion teuluol.
Llythyr oddi wrth Maggie [Roberts], yn Bootle, Lerpwl,
Part of Papurau Kate Roberts
Deallant fod KR yn brysur. Bydd angen gwyliau da arni ar ôl hyn. Mae arnynt hiraeth mawr am Harry bach. Daeth o hyd i straeon yn ei law. Adroddir dwy ohonynt.
Llythyr oddi wrth Dorothy [Rees], yn Moffat,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae ar wyliau yn yr Alban heb fod ymhell o gartref y brifathrawes. Bu'n ymweld â siop y gof yn Gretna Green a gobeithia gyrraedd Caeredin y diwrnod canlynol. Cawsant dywydd da yn Nyfnaint a Chernyw. Cerdyn post. Saesneg/English.
Part of Papurau Kate Roberts
Tystysgrif, 1 Medi 1910, y Bwrdd Addysg Canol, yn dangos bod Kate Roberts wedi llwyddo i ennill tystysgrif uwch mewn Cymraeg, Hanes a Lladin a Iaith Saesneg ar y safon hyn. Saesneg/English.
Tystysgrif gradd B.A. Prifysgol Cymru a gyflwynwyd i Kate Roberts yn,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystysgrif gradd B.A. Prifysgol Cymru a gyflwynwyd i Kate Roberts yn 1913. Lladin/Latin.
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr printiedig swyddogol oddi wrth y Frenhines Elizabeth [gwraig Siôr VI], yn diolch i Kate Roberts am gadw noddedigion yn ystod misoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd. Saesneg/English.
Part of Papurau Kate Roberts
Cyfrol a ddefnyddiwyd gyntaf gan Kate Roberts yn chweched dosbarth Ysgol Sir Caernarfon ar gyfer "Welsh Philology". Ar y clawr dywedir "Yn cynnwys hefyd, nodiadau ar gyfer ysgrifau". 51 Tt. Saesneg/English.
Part of Papurau Kate Roberts
67 Tt. Saesneg/English.
Part of Papurau Kate Roberts
78 Tt. Saesneg/English.