Drafftiau Llawysgrif o'r ddrama radio "Y Gwas" gan Kate Roberts, yn llaw'r awdures. Darlledwyd y ddrama ar Raglen Cymru y BBC, ddydd Iau, 16 Chwefror 1961, gydag Emyr Humphreys yn cynhyrchu. Ceir drafft arall o'r ddrama yn rhif 2614 uchod. Gweler hefyd 2652-3 isod. 2645 Drafft cynnar ynghyd â nodiadau cynllunio gan yr awdures, 20 tt.; 2646 Drafft o Act 1, 15 tt.; 2647 Drafft o Act 2, 24 tt.; 2648 Drafft o Act 2, 15 tt.; 2649 Drafft o Act 3, 22 tt.; 2650 Drafft o Act 3, 28 tt.; ynghyd â dau lythyr, 27 Rhagfyr [1959] a 18 Chwefror 1960 oddi wrth y cynhyrchydd, Emyr Humphreys. Ysgrifennwyd y drafft hwn ar gefn papur sgript addasiad radio o'r gyfrol Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956), rhan 6, a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, 8 Mehefin 1956, gydag Emyr Humphreys yn cynhyrchu.