Showing 691 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file
Advanced search options
Print preview View:

Cystadlaethau amrywiol,

Cynllunio clawr record, neu boster i hysbysebu dawns; cystadlaethau i ddysgwyr. Cystadlaethau gwyddoniaeth a thechnoleg : cynhyrchu rhaglen yn defnyddio iaith LOGO i greu patrwm ar gyfer siôl Gymreig (Ysgol Gynradd); cynllunio tudalen flaen papur newydd trwy gyfrwng cyfrifiadur; disgrifiadau darluniadol o wrthdrawiad rhwng dau wrthrych (dan 20 oed); paratoi bwydlen bum niwrnod ar gyfer bwyrta'n iach ac erthygl addas i'w chynnwys yn Cynefin a Dyfeisgarwch mewn diwydiant.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); preliwd corâl ar gyfer organ; cyfres o symudiadau ar gyfer ffidil, clarinet a phiano; étude ar gyfer ffidil (digyfeiliant); deuawd ar gyfer unrhyw offeryn chwyth a phiano; gwaith byr 'A capella' ar gyfer côr S.A.T.B. neu S.S.A.A.; ymdeithgan ar gyfer ensemble ysgol; agorawd gerddorfaol heb fod dros 10 munud; emyn-donau; unawd ar gyfer telyn neu biano (ieuenctid 19-25 oed) a threfniant ar gyfer partïon gwerin o ganeuon gwerin penodol.

Drama,

Drama a gymer rhwng awr a hanner a dwy awr i'w pherfformio (Tlws y ddrama); sgriptiau opera sebon; drama fer tua 40 munud o hyd; sgript drama gerdd, addas i'w pherfformio gan blant ysgolion cynradd; amlinelliad llu a llafar o bump o hysbysebion ar gyfer y teledu.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc; cân wreiddiol; emyn-donau; gwaith corawl SATB gyda chyfeiliant piano neu organ; rhangan ddigyfeiliant; cylch o chwe chân unsain neu ddeusain ar gyfer disgyblion ysgol gynradd neu blwyddyn 1 a 2 ysgol uwchradd; gwaith ar gyfer cerddorfa ysgol; trefniant o unrhyw emyn-dôn Cymreig; ymdeithgan ar gyfer band pres; unawd safonol i unrhyw lais, addas i'w berfformio mewn cystadlaethau lleisiol eisteddfodol; gwaith byr tua 5 munud o hyd ar gyfer piano, neu i unrhyw offeryn gyda chyfeiliant piano; gwaith byr ar gyfer piano, neu i unrhyw offeryn gyda chyfeiliant piano a threfniant TBarB neu TTBB di-gyfeiliant o un gân werin o gasgliad Lady Herbert Lewis.

Rhyddiaith,

Ysgrif-bortread o unrhyw Gymro neu Gymraes a fu farw o fwewn y deng mlynedd diwethaf; stori fer ddigrif wedi ei lleoli mewn ardal ddiwydiannol; stori fer â chefndir crefyddol iddi; stori i rai dan 25 oed; pymtheg o chwedlau byrion a nofel antur ar gyfer dysgwyr o oedolion.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc a gwneud gosodiad ohoni (dan 25 oed); cyfansoddi cainc (agored); cyfansoddi cân; emyn-donau; anthem â chyfeiliant organ ar gyfer côr S.A.T.B.; darn byr i'r organ; darn byr i biano; unawd ar gyfer llais a phiano; darn byr ar gyfer band jazz ysgol; darn byr ar gyfer cerddorfa a chanu baled draddodiadol â chysylltiadau â Morgannwg.

Results 201 to 220 of 691