Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Diolch i Kate Roberts a Morris T. Williams am eu cysondeb a'u ffyddlondeb yn ysgrifennu i'r Ddraig Goch. Rhaid dangos wyneb caled i'r byd er nad yw rhagolygon etholiad Caernarfon yn addawol. Anodd dweud os yw'r mwyafrif o Gymry yn werth ymflino drostynt. Bwriad i ymweld â Rhiwbeina. Mae'n ceisio ysgrifennu pennod o'r "Artist yn Philistia" rhwng pob rhifyn o'r Ddraig Goch. Nid yw Saunders Lewis yn hoffi "Y Wythien Aur" fel teitl ar gyfer llyfr nesaf KR. Mae'n awgrymu iddi geisio cael enw ag aroglau'r pridd arno. Cyfeiriad at W. J. Gruffydd a'i wraig ac at yr ymgyfreithio gyda chwmni Selfridge a gostiodd ddeg punt iddo. Bydd raid iddo fynd heb win am chwe mis "yn gosb am ddweud y gwir".

Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,

Cydnabod llythyr cydymdeimlad [ar golli ei dad a siom na chafodd swydd yn Brifathro Coleg Caerdydd, gw. Casgliad W. J. Gruffydd rhif 731 am y llythyr gwreiddiol]. Mae pethau felly i'w disgwyl bellach ond gwyr pwy yw ei gyfeillion yn awr. Teipysgrif.

Llythyr oddi wrth J. R. T. [John Richard Williams, 'Tryfanwy'], ym Mhorthmadog,

Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.

Llythyr oddi wrth 'Tryf[anwy', John Richard Williams], ym Mhorthmadog,

Ymddiheuro am ysgrifennu mewn pensel. Caiff feirniadaeth ar ei chân y tro nesaf. Mae ganddo gopïau o Cynfeirdd Lleyn ac yn eu gwerthu am 6/6 y copi. Fe'u cafodd hwy am bedwar swllt yr un ac y mae'n barod i'w gwerthu i KR neu eu disgyblion am y pris hwnnw. Mae ef yn gwella'n dda. Mae salwch mawr yn y dref - 200 yn sâl y diwrnod cynt a llawer yn marw. Gofyn i KR frasgyfieithu nodiadau Llydaweg iddo. Ar gefn y llythyr ceir cerdd gân KR ynglyn â marwolaeth ei brawd, David, yn y Rhyfel Mawr: "Atgof am Ddei". Ychwanegwyd pennill gan 'Tryfanwy'. Gw. Dafydd Ifans, art.cit.

Llythyr oddi wrth 'Roparz Hemon', L. P. Nemo, ym Mharis,

Gofyn am ganiatâd i gyfieithu'r stori "Y Wraig Weddw" i'r Llydaweg ar gyfer Gwalarn, sef yr atodiad llenyddol i Breiz Atao. Bydd yn gyfle i'r Llydawiaid ddod i gysylltiad â llên Cymru. Mae'n ysgrifennu at W. J. Gruffydd hefyd am ganiatâd gan i'r stori ymddangos yn Y Llenor, cyfrol III (1924), tt 73-81.

Llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones, yn Aberystwyth,

Diolch am gopi o O Gors y Bryniau ac am y cyflwyniad iddo. Dychmygu beth a ddywedai 'Dic Tryfan' pe byddai fyw i ddarllen y gyfrol. Pan fydd yn darllen gwaith KR bydd yn caru ei gydwladwyr yn fawr iawn er iddo ddigio wrthynt yn aml. Y mae Tegla Davies yn cytuno â'i farn. Cafodd hi ddawn ardderchog a dysgodd grefft ardderchog hefyd. Mae'n ei chymell i ysgrifennu rhyw ddeg neu ddwsin o straeon heb eu cyhoeddi o'r blaen yn unman fel y profai'n brofiad a brisiai pob Cymro gwerth yr enw.

Llythyr oddi wrth Dorothy [Rees], yn Moffat,

Mae ar wyliau yn yr Alban heb fod ymhell o gartref y brifathrawes. Bu'n ymweld â siop y gof yn Gretna Green a gobeithia gyrraedd Caeredin y diwrnod canlynol. Cawsant dywydd da yn Nyfnaint a Chernyw. Cerdyn post. Saesneg/English.

Results 41 to 60 of 2492