Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1912x1930], [1990x2012] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Deunydd yn ymwneud ag Edward (Ned) Thomas Edmunds, a ymfudodd i'r Wladfa, Patagonia ym 1912 a dod yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman, gan gynnwys cardiau post wedi'u harysgrifio, ffotograffau [?un yn dangos Edward Thomas Edmunds] a choeden deuluol. Gwraig gyntaf Edward Thomas Edmunds oedd Margaret Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), ac mae'n bosib mai ei llaw hi a welir ar gefn y cardiau post (gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams), Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams a Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [?Margaret Wilhelmina (Minnie) Edmunds] dan bennawd John Edwal Williams.
Deunydd yn ymwneud â'r Parchedig William Williams (1781-1840) ('Williams o'r Wern'), un o hynafiaid Edward Thomas Edmunds, gan gynnwys llungopi o ysgrif gan Dyfnallt Owen o'i lyfr Ar Y Tŵr (1953) a llungopi o erthyglau o'r wasg. Gweler hefyd y goeden deuluol (a ddisgrifir uchod) yn olrhain perthynas Edward Thomas Edmunds gyda 'Williams o'r Wern'.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Priododd Margaret Wilhelmina (Minnie) Jones, chwaer Angharad Williams (née Jones), ag Edward (Ned) Thomas Edmunds ac ymfudo i'r Wladfa, Patagonia ym 1912. Daeth ei gŵr yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman.
Ganed William Williams ym mhlwyf Llanfachreth, Meirionnydd. Yn 13 oed, dylanwadwyd arno'n drwm gan bregethu Rhys Dafis ('Y Glun Bren'; 1772-1847). Daeth yn gyflawn aelod o'r Annibynwyr yn 15 oed a dechreuodd bregethu yn ei arddegau. Fe'i addysgwyd yn athrofa Wrecsam a'i urddo'n weinidog capeli'r Wern a Harwd ger Wrecsam ym 1808. Sefydlodd achosion yn Rhosllannerchrugog, Rhiwabon a Llangollen. 'Roedd yn un o hyrwyddwyr yr 'Undeb Gyffredinol', sef mudiad i geisio di-ddyledu capeli. Bu'n gweinidogaethu am gyfnod yn Lerpwl, ond dirywiodd ei iechyd a dychwelodd i ardal Wrecsam, lle bu farw, a'i gladdu ym mynwent capel y Wern. Yn ei ddydd, daeth i'r amlwg fel un o bregethwyr mwyaf blaenllaw Cymru.