File BB/1 - Dalen a Dail

Identity area

Reference code

BB/1

Title

Dalen a Dail

Date(s)

  • 1953, 1994, 2010 (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

1 amlen

Context area

Name of creator

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Dalen a Dail, a recordiwyd ym 1994 a'i darlledu ym 1995, yn yr hwn y bu Dic Jones yn olrhain hanes Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gw. Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7). Mae'r deunydd yn cynnwys ebost at Idris ac Elsie Reynolds oddi wrth y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r darlledwr teledu Wyn Thomas o Ffilmiau Tawe; llungopi o lythyr, 1994, at [?Dic] Jones oddi wrth Dr Mererid Hopwood, oedd ar y pryd yn Gysylltydd Canolfan Llenyddiaeth Gyfoes Almaeneg Coleg y Brifysgol Abertawe; llungopi o doriad papur newydd, 6 Tachwedd 1953, yn ymwneud â Chôr Plant Obernkirchen yn yr Almaen; cynllun a chynnwys y rhaglen Dalen a Dail; a barddoniaeth gan Dic Jones a ysbrydolwyd gan ei daith i'r Almaen ar gyfer recordio Dalen a Dail.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Un eitem yn Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Mân rwygiadau ar frig un ddalen: eithaf bregus: cedwir mewn amlen wedi'i nodi.

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Trosglwyddwyd ffotograffau o Dic Jones, ei wraig Siân ac eraill ar leoliad yn Yr Almaen ym 1994 tra'n recordio rhaglen deledu Dalen a Dail (darlledwyd 1995) i Adran Ffotograffig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle ceir mynediad iddynt trwy gais.

Lleoliad: Llyfr Ffoto 7124 (maint B)
Cyfeirnod: 995194576402419

Trosglwyddwyd disg gweledol digidol (DVD) yn cynnwys rhaglen deledu Dalen a Dail,a ddarlledwyd ym 1995, i Adran Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle ceir mynediad iddo trwy gais. (Rhan o Bapurau Idris Reynolds)

Cyfeirnod: 994875498002419

Related descriptions

Notes area

Note

Am Wyn Thomas gweler, er enghraifft: https://uk.linkedin.com/in/wyn-thomas-7779069; https://x.com/i/flow/login?redirect_after_login=%2Fffilmiau

Sefydlwyd Gôr Plant Obernkirchen (Schaumburger Märchensänger (Cantorion Straeon Tylwyth Teg Schaumburger)) gan Edith Moller ac Erna Pielsticker ym 1949 ar gyfer plant a phobl ifanc a amddifadwyd gan yr Ail Ryfel Byd (https://peel.fandom.com/wiki/Obernkirchen_Children%27s_Choir) (gw. hefyd, er enghraifft: https://obernkirchen48.com/).

Ganed y bardd a'r Prifardd Mererid Hopwood yng Nghaerdydd a graddio mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Bu'n darlithio mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. (https://en.wikipedia.org/wiki/Mererid_Hopwood)

Alternative identifier(s)

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers (Bocs 7) BB/1